'Prif ddiwrnod y flwyddyn' i fusnesau Aberteifi wrth i Sadwrn Barlys ddychwelyd
Mae disgwyl i filoedd ymweld ag Aberteifi ddydd Sadwrn ar gyfer Sadwrn Barlys, wedi i 5,500 o bobl ymweld â’r dref y llynedd.
Mae busnesau lleol yn pwysleisio pwysigrwydd y digwyddiad, sy’n rhoi hwb sylweddol i economi’r dref.
Yn ôl Bradley Roberts, sy’n rheolwr ar ddyletswydd yng ngwesty’r Llew Du yn y dref, dyma “prif ddiwrnod y flwyddyn” ar gyfer y busnes.
“Y penwythnos yma mae’r ystafelloedd i gyd yn llawn, a’r rhan fwyaf o’n chwaer fusnesau hefyd," meddai.
"Mae’n gymysgedd o bobl sy’n dod i lawr yn benodol ar gyfer y digwyddiad, a phobl eraill fel beirniaid yn dod i aros.”
Mae’r digwyddiad wedi bod yn rhan o galendr Aberteifi ers 155 mlynedd.
Yn hanesyddol, roedd Sadwrn Barlys yn farchnad a ffair gyflogi yn Aberteifi, lle byddai pobl yn prynu a gwerthu ceffylau ac yn chwilio am waith.
Daw’r enw “Sadwrn Barlys” o’r ffaith ei fod yn nodi diwedd cyfnod hau barlys y gwanwyn gan ffermwyr lleol.
Bellach, mae’n ddigwyddiad blynyddol lle mae ceffylau’n cael eu harddangos ac yn cael eu tywys drwy strydoedd y dref o flaen torfeydd mawr, gan ddenu ymwelwyr o bob cwr o Gymru.
Wrth sôn am y paratoadau, dywedodd Bradley eu bod yn dechrau cynllunio ar gyfer y diwrnod pedair i bum wythnos ymlaen llaw, gan sicrhau bod "digon o stoc’" yn y bar a’r bwyty.
Sioe feirch a mwy
Yn ogystal â’r orymdaith am 14.00 o amgylch y dref, mae sioe’n cael ei chynnal ar gaeau Ysgol Uwchradd Aberteifi, ynghyd ag arddangosfa o hen beiriannau.
Mae Emyr Davies o fridfa Gellifach ger Castell Newydd Emlyn wedi bod yn dod â meirch i’r sioe ers dechrau’r 90au.
“Ni di bod yn cefnogi ers 35 years siwr o fod," meddai. "Sa'i di misso un ers ni.”
Mae meirch sy’n eiddo i Emyr wedi ennill y brif bencampwriaeth bedair gwaith.
Yn ôl Emyr, mae’r gwaith o baratoi ceffyl yn cael ei wneud ers “dechrau’r flwyddyn”. Fe dynodd sylw at y gost o baratoi ceffyl hefyd.
“Ma'r cost wedi mynd fwy nawr," meddai. "Ma’ pedoli ceffyl yn cant punt awr. Ma’ bwydo ceffyl yn costi cannoedd.”
Er y gost, dywedodd mai “traddodiad” yw’r rheswm ei fod yn dal yn mynd â march i’r digwyddiad bob blwyddyn, a’r orymdaith yn benodol.
“Hwnna yw’r buzz mwya’," meddai.
Pontio’r wlad a’r dref
Tudor Harries yw ysgrifennydd Pwyllgor Sadwrn Barlys. Dywedodd wrth Newyddion S4C fod y digwyddiad yn “clymu bywyd gwledig a threfol”.
“Mae tueddiad i fynd oddi wrth bywyd cefn gwlad a mae hwn yn rhyw ffordd o bontio hynny, a tynnu'r wlad a'r dre at ei gilydd," meddai.
Trafododd yr her ariannol o drefnu’r digwyddiad.
“Mae costau cynnal y sioe i ni lan yn agos i ddeng mil o gostau. Am rywbeth hanner diwrnod mae e'n gost aruthrol.”
Fe nododd bwysigrwydd busnesau lleol sy’n noddi’r digwyddiad gan ddweud bod "hyn helpu'r achos.”
Gyda’r tywydd yn addo hi’n braf brynhawn Sadwrn, mae’r trefnwyr yn disgwyl cynnydd yn nifer yr ymwelwyr eleni.
“Dwi'n credu beth sy'n neud yn unigryw a be sy'n denu pobl yw rhedeg y ceffylau," meddai.
"Ma’ hwnna'n rhywbeth sydd yn hollol unigryw.”