Y prif bleidiau ddim am sefyll mewn is-etholiad yn erbyn Farage

farage.jpg

Mae mwyafrif y prif bleidiau gwleidyddol wedi dweud na fyddan nhw yn sefyll mewn is-etholiad yn Clacton ar ôl i Nigel Farage ddweud ei fod am ymddiswyddo.

Fe ddywedodd arweinydd Reform UK ddydd Mawrth y byddai yn rhoi'r gorau iddi er mwyn brwydro'r sedd sydd yn ne-ddwyrain Lloegr.

Ond mae'r blaid Lafur, y Ceidwadwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol, Y Blaid Werdd a Restore Britain wedi dweud na fyddan nhw yn rhoi ymgeiswyr ymlaen ar gyfer yr is-etholiad.

Brynhawn Mawrth roedd Farage wedi dweud bod hon yn frwydr "y bobl yn erbyn y sefydliad".

Mae wedi bod o dan bwysau yn ddiweddar yn sgil cefnogaeth ariannol a dderbyniodd gan berson a gafwyd yn euog o dwyll, a rhodd o £5 miliwn gan fuddsoddwr. Mae ymchwiliad hefyd wedi dechrau gan Gomisiynydd Safonau'r Senedd yn San Steffan i'r mater.

Dywedodd Farage mai "pobl Clacton ddylai fod yn feirniaid fy ngweithredoedd".

Yn ôl y blaid Lafur "syrcas" yw'r is-etholiad. Maent wedi cyhuddo Farage o "geisio ei orau glas i newid y pwnc". Mae'r llefarydd ar gyfer y blaid wedi dweud y dylai Farage adael i'r ymchwiliad seneddol fynd rhagddo a "wynebu'r canlyniadau".

Ni fydd y Ceidwadwyr yn cymryd rhan mewn "etholiad ffug" meddai arweinydd y blaid, Kemi Badenoch.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi annog y llywodraeth yn San Steffan i atal ymddiswyddiad Farage tan fod yr ymchwiliad safonau wedi dod i ben. Maent yn dadlau bod angen i'r etholwyr wybod y "ffeithiau i gyd cyn bwrw eu pleidlais".

Fydd Restore Britain ddim yn sefyll yn yr etholiad chwaith meddai'r blaid. Ond maent wedi dweud y byddant yn gwneud os byddai yna is-etholiad yn cael ei gynnal yn sgil yr ymchwiliad safonau. 

Mae AS Y Gwyrddion, Hannah Spencer hefyd wedi dweud wrth y BBC bod aelodau lleol wedi penderfynu peidio rhoi ymgeisydd ymlaen.

Beth ddigwyddodd ddydd Mawrth?

Fe wnaeth Farage ddatganiad dros 20 munud o hyd ddydd Mawrth. Doedd dim cyfle i newyddiadurwyr ei holi a dywedodd na fyddai'n cael ei "farnu" gan y cyfryngau.

"Rydw i wedi penderfynu mai pobl Clacton ddylai fod yn feirniaid fy ngweithredoedd," meddai.

"Bydd hwn yn is-etholiad y bobol yn erbyn y sefydliad," ychwanegodd.

"Mae'n gyfle i godi dau fys i'r holl sefydliad, i ddweud wrthyn nhw lle i fynd, a dyna pam rydw i'n cynnig fy enw i sefyll yn yr is-etholiad hwn."

Mae ffynonellau Reform wedi dweud eu bod eisiau i'r etholiad ddigwydd yn gyflym. Mae Farage yn dweud bod ei blaid wedi cynnig talu'r costau cynnal is-etholiad sydd fel arfer yn cael ei dalu gan nawdd llywodraeth ganolog. 

Yn 2024 fe enillodd Farage y sedd yn Clacton gyda mwyafrif o dros 8,000.

Y cefndir

Mae Farage wedi bod o dan ymchwiliad ers mis Mai am beidio datgan rhodd o £5 miliwn gan Christopher Harborne, buddsoddwr mewn arian crypto sydd yn byw yng Ngwlad Thai.

Mae AS Clacton wedi rhoi sawl eglurhad am y rhodd, gan gynnwys ei fod ar gyfer talu am ei ddiogelwch personol.

Mae'r Sunday Times wedi cyhoeddi stori sydd yn dweud fod Nigel Farage wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan George Cottrell, sydd wedi ei gael yn euog o drosedd. Fe gafodd yr arian yma yn y flwyddyn cyn iddo gael ei ethol i San Steffan.

Mae rheolau San Steffan yn dweud bod ASau newydd yn gorfod datgan rhoddion, gan gynnwys llety 12 mis cyn yr etholiad. Ond mae yna eithriad sef rhoddion a buddion sydd yn "bersonol". Dadl Farage yw bod y gefnogaeth y cafodd yn dod o dan yr eithriad yma. 
 

Mae'r ymchwiliad safonau wedi ei atal yn dilyn ymddiswyddiad Farage. Ond fe allai gychwyn eto os byddai arweinydd Reform UK yn ennill yr is-etholiad ac yn dod yn AS unwaith eto.

Un posibilrwydd o'r ymchwiliad yw gwaharddiad fyddai yn golygu y byddai deiseb yn cael ei chychwyn. Mae'r broses yn golygu y gallai ail is- etholiad gael ei galw os oes digon o bleidleiswyr o blaid hynny. 

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.