Porthmadog: Gwrandawiad camymddwyn wedi dechrau yn erbyn plismon
Mae'r achos wedi dechrau yn erbyn plismon o Heddlu Gogledd Cymru sy'n wynebu cyhuddiad o gamymddwyn difrifol wedi digwyddiad mewn gardd ym Mhorthmadog yn 2023.
Yn y gwrandawiad ym Mae Colwyn fore Llun, cafodd cyfres o dystiolaeth ei chyflwyno cyn i'r achos gael ei ohirio tan fore Mawrth.
Cafodd y Cwnstabl Richard Williams ei ddyfarnu'n ddieuog o achosi niwed corfforol gwirioneddol a thagu bwriadol y llynedd, wedi iddo arestio dyn mewn cartref ar ystâd Pensyflog ym Mhorthmadog ar 10 Mai 2023.
Daeth dyfarniad y rheithgor yn dilyn achos saith diwrnod yn Llys y Goron Caernarfon fis Mai'r llynedd.
Mae'r Cwnstabl Williams nawr yn wynebu cyhuddiad o ddefnydd “anaddas, anghymesur ac afresymol o rym” yn y gwrandawiad camymddwyn ym mhencadlys Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r cwnstabl wedi’i gyhuddo o dorri Safonau Ymddygiad Proffesiynol sydd yn ymwneud â defnydd o rym, awdurdod, parch a chwrteisi ac ymddygiad anfrïol.
Mae’r awdurdodau perthnasol wedi asesu’r cyhuddiadau a phenderfynu eu bod yn cyrraedd y trothwy o gamymddwyn difrifol.
Bydd y gwrandawiad yn parhau am 10:30 ddydd Mawrth.
Llun: Y Cwnstabl Richard Williams y tu allan i Lys y Goron Caernarfon yn ystod yr achos yn 2025.
