Pont y Borth yn parhau ar gau yn llwyr tan nos Sadwrn

Cyngor Môn - Pont Menai

Bydd Pont y Borth rhwng Ynys Môn a'r tir mawr yn cael ei chau'n llwyr i gerbydau tan nos Sadwrn, er mwyn cynnal gwaith i'w diogelu.

Mae un lôn wedi bod ar gau ar y bont rhwng 10.00 a 18.00 ers dydd Mercher, gyda goleuadau traffig yn rheoli llif y cerbydau.

Ond bydd y bont ar gau yn llwyr i gerbydau rhwng 14.00 ddydd Gwener a 18.00 ddydd Sadwrn, gyda cherbydau yn cael eu dargyfeirio dros Bont Britannia. 

Bydd modd i gerddwyr a beicwyr oddi ar eu beiciau groesi'r bont yn ystod y cyfnod y bydd ar gau.

Yn dilyn y gwaith dros y penwythnos, bydd un lôn yn parhau ar gau yn ddyddiol tan ddydd Gwener 22 Mai.

Mae disgwyl i'r cyfyngiadau traffig gael eu codi cyn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2026 ar Faes Sioe Amaethyddol Môn ger Gwalchmai rhwng Mai 23 a 29.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cau'r bont i "gwblhau gwaith i fynd i’r afael â risg diogelwch uniongyrchol gan geblau cyfathrebu anniogel o dan y bont, ac i roi mesurau ar waith i sicrhau diogelwch y gweithlu ar y bont".

"Mae'n rhaid diogelu'r ceblau, sy'n darparu cysylltiadau cyfathrebu ag Ynys Môn ac Iwerddon, cyn y gall gwaith pellach barhau," ychwanegodd.

Roedd mapiau traffig yn dangos bod yr A487 yn brysur wrth nesáu at yr A55 ym Mangor brynhawn Gwener.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.