Pobl yng Nghaerdydd heb dderbyn pleidleisiau post ddyddiau cyn yr etholiad

ITV Cymru
etholiad.png

Ddyddiau cyn Etholiad y Senedd, mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi y bydd yn dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post â llaw, am nad yw rhai etholwyr wedi derbyn eu papurau pleidleisio yn etholaethau Caerdydd Ffynnon Taf a Chaerdydd Penarth.

Yn ôl cyngor y brifddinas, maen nhw wedi gweithredu ar frys, ar ôl i rai etholwyr nodi nad ydynt wedi derbyn eu papurau pleidleisio.   

Mae'r awdurdod yn dweud y bydd rhai yn cael eu dosbarthu â llaw ddydd Mawrth, 5 Mai, neu yn cael eu hanfon drwy'r post fel mater o flaenoriaeth.  

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod wedi darparu bron 47,000 o becynnau pleidleisiau post yn yr wythnosau diwethaf, a bod 26,500 wedi eu dychwelyd. 

"Wedi adroddiadau fod rhai etholwyr heb dderbyn eu pecynnau pleidleisiau drwy'r post eto, rydym wedi bod yn gweithio ar frys er mwyn ymchwilio i hynny, ac wedi darganfod fod y pecynnau dan sylw yn ymwneud ag argraffiad atodol ar gyfer etholaethau Caerdydd Ffynnon Taf a Chaerdydd Penarth," meddai.  

Image
Neuadd y Sir, Caerdydd
Neuadd y Sir, Caerdydd

"Rydym wedi cael gwybod gan ein hargraffwyr Civica, fod y data perthnasol wedi ei dderbyn yn gywir oddi ar y cyngor, a bod y pecynnau wedi eu hargraffu a'u hanfon at y Post Brenhinol, sy'n parhau i gynnal ymchwiliad.    

"Gall pleidleiswyr sy'n derbyn pecyn yn lle'r rhai coll, naill ai ei gwblhau a'i roi yn syth i'n staff adeg ei ddosbarthu i'r tŷ, ei gyflwyno mewn unrhyw orsaf bleidleisio cyn 22:00 nos Iau, neu ei adael yn Neuadd y Sir cyn 22:00 nos Iau.  

"Mae'n ddrwg gennym am yr anghyfleustra, ac rydym yn canolbwyntio ar sicrhau fod pawb sydd heb dderbyn papurau yn medru pleidleisio."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.