Plaid Cymru yn bwriadu dechrau trafodaethau gyda phleidiau eraill er mwyn ffurfio llywodraeth
Bydd Plaid Cymru yn dechrau trafodaethau gyda phleidiau eraill ar ôl ennill y nifer fwyaf o seddi yn y Senedd ar ôl i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi ddydd Gwener.
Bydd ASau’r blaid yn teithio i Gaerdydd ddydd Sadwrn ar gyfer ymddangosiad y tu allan i adeilad y Senedd.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ddydd Gwener fod ei blaid “yn barod i gymryd y camau angenrheidiol i ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru”, ar ôl ennill y nifer fwyaf o seddi.
Ychwanegodd y byddai yn "estyn allan" at wleidyddion eraill yn y Senedd, ac y bydd ei blaid yn cynnig ei enw i fod yn brif weinidog.
Gallai'r bleidlais i gadarnhau pwy fydd yn arwain y weinyddiaeth ddigwydd cyn gynted â dydd Mawrth.
Mae’r blaid wedi ennill 43 o seddi, gan olygu mai hi yw’r blaid fwyaf, ond nid yw wedi sicrhau mwyafrif, sef 49 o seddi.
Cafodd Reform UK 34 o seddi, gyda Llafur Cymru yn drydydd â naw, y Ceidwadwyr Cymreig â saith, y Blaid Werdd â dwy, a’r Democratiaid Rhyddfrydol ag un.
Mae’r canlyniad yn golygu y bydd rhaid i Blaid Cymru drafod gyda phleidiau eraill er mwyn ennill pleidleisiau yn y Senedd.
Mae Llafur, y Blaid Werdd a’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n gweithio gyda Reform UK.
'Dicter'
Bydd grŵp Llafur Cymru hefyd yn cwrdd ddydd Sadwrn er mwyn trafod y ffordd ymlaen.
Cwympodd cefnogaeth i’r blaid, a oedd wedi ennill pob un o etholiadau’r Senedd ers dechrau datganoli, gan ei gadael â naw aelod etholedig yn unig.
Collodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei sedd yng Ngheredigion Penfro a chyhoeddodd ei bod yn camu i lawr fel arweinydd.
Dywedodd ei bod yn falch o fod wedi bod yn Brif Weinidog benywaidd gyntaf Cymru, a dywedodd nad oedd “unrhyw atebion syml, ac mae’r cyllidebau’n gyfyngedig”, yn yr hyn a oedd yn ymddangos yn feirniadaeth o gynigion ei chystadleuwyr gwleidyddol ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd yr Arglwyddes Morgan: “Rydym i gyd yn deall y dicter, ond mae Cymru’n gryfach pan fyddwn yn sefyll gyda’n gilydd. Mae angen i ni wrando ar y dicter, nid bwydo’r dicter.”
Enillodd y Blaid Werdd yng Nghymru ei seddi cyntaf erioed yn Senedd Cymru, gan olygu y bydd Anthony Slaughter o Gaerdydd Penarth a Paul Rock o Gaerdydd Ffynnon Taf yn cymryd eu lle yn y Senedd.