‘Y peth mwyaf cŵl erioed’: Is-Arlywydd UDA yn dweud bod ymweliad â Chastell Caernarfon wedi newid ei safbwynt ar fywyd

JD Vance

Mae Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dweud bod Castell Caernarfon yn “y peth mwyaf cŵl erioed” a’i fod wedi newid ei safbwynt ar fywyd.

Wrth ysgrifennu yn ei lyfr newydd, Communion: Finding My Way Back to Faith, mae JD Vance yn dweud ei fod wedi ymweld â’r dref ar ymweliad â’i wraig, Usha, yn 2013.

“Yng Nghymru fe wnaethon ni ymweld â Chaernarfon, sy’n gartref i gastell hynod o hen a phrydferth,” meddai yn y llyfr.

“Mae ei waliau allanol enfawr wedi goroesi bron yn ddigyfnewid ers iddo gael ei adeiladu tua saith canrif yn ôl. Fe wnaethon ni ddringo i ben y waliau ac edrych i lawr ar y cychod yn siglo yn y dŵr, ac ar y dref ganoloesol islaw.

“Roedd y castell hwn eisoes gannoedd o flynyddoedd oed pan laniodd y gwladychwyr cyntaf o Loegr yn yr Unol Daleithiau. Am bron i fileniwm, roedd dynion ifanc wedi dringo waliau’r castell a gwylio’r haul yn adlewyrchu ar y dŵr o’i gwmpas.

“Mae pobl weithiau’n siarad am faint y bydysawd, ac am ba mor fach maen nhw’n teimlo o’u cymharu â’r sêr di-bendraw. Doeddwn i erioed wedi rhannu’r teimlad hwnnw.

“Ond yma, ar lan afon nad oeddwn i erioed wedi clywed amdani, fe deimlais rywbeth tebyg am y tro cyntaf: graddfa amser, a chyn lleied o’r byd y bydden ni’n ei weld.”

Ychwanegodd ei fod wedi ei “syfrdanu” gan y profiad.

“Y peth mwyaf cŵl dw i erioed wedi ei weld, a does dim byd arall yn agos ato.”

Mewn adolygiad ym mhapur newydd y Guardian, dywedodd cyn Archesgob Cymru, Rowan Williams, fod y llyfr yn un “meddylgar” a “theimladwy”.

Ond mae hefyd yn beirniadu JD Vance am fethu â chyfiawnhau nifer o’i safbwyntiau Cristnogol yng nghyd-destun gweithredoedd llywodraeth UDA.

“Sut ydyn ni i gymryd o ddifri lyfr sy’n anwybyddu llygredd rhemp dosbarth llywodraethol Trump?” gofynna.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.