Pen-y-bont: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw 47 oed

Pen-y-bont: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio menyw 47 oed

Mae dyn 61 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddio menyw 47 oed ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd swyddogion eu galw i Heol Coity yn y dref am tua 12:43 ddydd Llun ar ôl derbyn adroddiad fod gwrthdrawiad wedi digwydd.

Ar ôl cyrraedd, fe wnaeth yr heddlu ddarganfod fod y gyrrwr wedi dioddef anafiadau nad oedd yn ymddangos fel eu bod yn gysylltiedig â'r gwrthdrawiad. 

Cafodd y gyrrwr - menyw 47 oed o gymuned Gogledd Corneli - ei chludo i'r ysbyty ar ôl derbyn cymorth meddygol ond fe fu farw'n ddiweddarach.

Mae ei theulu wedi cael gwybod am ei marwolaeth er nad yw wedi cael ei hadnabod yn ffurfiol. 

Yn dilyn ymgyrch heddlu "sylweddol" yn ardal Ger-y-Nant o'r dref, cafodd y dyn ei arestio ar amheuaeth o'i llofruddio ac mae bellach yn y ddalfa.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygwr Jason Rees: “Mae dyn bellach yn y ddalfa yn dilyn ymgyrch heddlu sylweddol yn Ger-y-Nant dros nos.

“Mae hwn yn ddigwyddiad sy'n achosi gofid mawr, ac mae ein meddyliau gyda theulu'r dioddefwr, a phawb arall y mae hyn wedi effeithio arnynt. 

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth sydd wedi arwain at yr arestiad heb i neb arall gael anafiadau.

“Diolchwn i’r rhai a gafodd eu symud o’u cartrefi dros nos am eu cydweithrediad mewn cyfnod pryderus, wrth i ni eu cefnogi i ddychwelyd adref.

"Diolchwn i’r gymuned leol am eu cydweithrediad wrth i’n hymchwiliad barhau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.