Pêl-droed: Y gogledd yn erbyn y de i gynrychioli Cymru yn Ewrop
Pêl-droed: Y gogledd yn erbyn y de i gynrychioli Cymru yn Ewrop
Bydd tîm rhanbarthol y gogledd yn wynebu tîm rhanbarthol y de ddydd Sadwrn i benderfynu pwy fydd yn cynrychioli Cymru yn Ewrop.
Fe fydd chwaraewyr timau fel y Rhyl, Hotspur Caergybi, Caerau Trelái a Llanilltud Fawr yn chwarae i geisio hawlio lle yng Nghwpan Rhanbarthau UEFA.
Mae'n gystadleuaeth sy'n rhoi cyfle i chwaraewyr amatur sydd ddim yn chwarae ar y lefel broffesiynol, i gynrychioli eu gwlad.
Yn unol â rheolau UEFA, ni all chwaraewyr sydd wedi chwarae'n broffesiynol neu wedi chwarae un funud mewn unrhyw uwch gynghrair, gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Rhaid iddynt fod o leiaf 19 oed a dim yn hŷn na 39 hefyd.
Ddydd Sadwrn fydd yr ail gymal, a thîm y de enillodd y cymal cyntaf o 2-1 yn Nhrefelin.
Fe fydd yr ail gymal yn cael ei chwarae ym Mrychdyn, gyda'r enillwyr dros y ddau gymal yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth yn Bosnia a Herzegovina fis Medi.
Mae Cymru yn yr un grŵp â Gogledd Macedonia, Bosnia a Herzegovina a’r enillwyr rhwng Armenia, Estonia a Lithwania eleni.
Pe bai Cymru yn ennill eu grŵp, fe fyddan nhw’n chwarae yn y rowndiau terfynol a fydd yn cael eu cynnal ym mis Mehefin neu Orffennaf 2027 yn un o'r gwledydd sydd yn cystadlu yn y rowndiau terfynol.
Hanes Cymru yn y gystadleuaeth
Mae'r gystadleuaeth hon wedi cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn ers 1999, gyda Chymru'n cystadlu ynddi am y tro cyntaf yn 2009.
Yn wahanol i'r drefn heddiw, nid timau o'r de na'r gogledd yn unig oedd yn cystadlu.
Cymdeithas Bêl-droed Gwent gynrychiolodd Cymru yn 2009 a 2011, ond ni lwyddodd y tîm i ennill unrhyw un o'u gemau.
Fe ddaeth buddugoliaeth gyntaf Cymru (ac eithrio'r rowndiau cymhwyso) yn 2019, pan enillodd tîm y de yn erbyn tîm o ddinas Minsk ym Melarws.
Roedd tîm y gogledd wedi sicrhau dwy fuddugoliaeth a gorffen yn ail yn eu grŵp yn 2023, ond nid oedd hynny yn ddigon i gyrraedd y rowndiau terfynol.
Un fuddugoliaeth oedd yn 2025, a hynny pan orffennodd tîm rhanbarthol y de yn drydydd yn eu grŵp, gyda buddugoliaeth yn erbyn tîm o Ogledd Macedonia.
