Pêl-droed: Bae Colwyn i herio Pen-y-bont yng ngemau ail-gyfle Ewrop
Mae’r tymor cyffredin wedi dod i ben ac roedd hi’n benwythnos olaf cyffrous gyda’r Fflint yn osgoi’r cwymp o drwch blewyn gan i’r Bala golli’n hwyr yn erbyn Llansawel, ac felly’n colli eu lle yn y Cymru Premier JD ar ôl 16 mlynedd yn yr uwch gynghrair.
Yn esgyn i’r Cymru Premier JD y tymor nesaf mae Llandudno, Airbus UK, Treffynnon, Trefelin, Cambrian a Rhydaman wrth i’r gynghrair ehangu i 16 clwb.
Mae tri chlwb wedi sicrhau eu lle yn Ewrop ar gyfer y tymor nesaf, sef y ddau uchaf yn y tabl, Y Seintiau Newydd a Chei Connah, yn ogystal ag enillwyr Cwpan Cymru, Caernarfon.
Bydd y pedwerydd tocyn Ewropeaidd yn mynd i enillwyr y gemau ail gyfle, a’r penwythnos yma mi fydd Bae Colwyn yn wynebu Pen-y-bont yn y rownd gyn-derfynol, tra bydd Y Barri yn croesawu Hwlffordd.
O’r pedwar clwb sy’n cystadlu yn y gemau ail gyfle eleni, Bae Colwyn yw’r unig glwb sydd erioed wedi cael blas o chwarae’n Ewrop yn y gorffennol.
Gyda thorf gyfartalog o dros fil o gefnogwyr, mae’r Gwylanod wedi denu mwy o wylwyr nag unrhyw glwb arall yn y gynghrair y tymor hwn, ac fe all y fantais o chwarae gartref gael dylanwad sylweddol ar y gêm hon.
Ar y llaw arall, mae tîm Michael Wilde wedi gorffen y tymor cyffredin gyda rhediad o dair gêm heb fuddugoliaeth, gan gynnwys gêm ddi-sgôr oddi cartref yn erbyn Pen-y-bont.
Honno oedd y bedwaredd ornest rhwng y clybiau’r tymor hwn gyda Pen-y-bont yn ennill unwaith ym mis Medi, Bae Colwyn yn ennill ddwywaith ar Ffordd Llanelian cyn y gêm ddi-sgôr ym mis Mawrth.
Yn dilyn eu gêm gyfartal oddi cartref yng Nghei Connah ddydd Sadwrn, roedd Michael Wilde yn teimlo’n bositif cyn y gemau ail gyfle.
"Dwi'n meddwl bod momentwm yn rhywbeth mawr," meddai.
"Rydym nawr mewn sefyllfa o flaen cefnogwyr ein hunain sydd yn wych ac mae pawb yn barod amdani, does dim anafiadau, felly mae popeth yn ei le.
"Dwi'n gwybod y bydd Rhys Griffiths [rheolwr Pen-y-bont] yn paratoi yn gywir, a dwi hefyd yn gwybod y bydd hi yn wahanol iawn i'r gêm yn y gynghrair oherwydd mae hyn fel rownd derfynol yn y cwpan."
'Dim y ffefrynnau'
Mae hi wedi bod yn dymor hynod siomedig i Ben-y-bont sydd wedi methu cynnal y safon ar ôl gorffen yn ail y tymor diwethaf.
Dechreuodd y rhediad gwael ar Ffordd Llanelian ym mis Tachwedd gyda’r Gleision yn colli 5-4 yn erbyn Bae Colwyn, ac ers hynny dyw Pen-y-bont ond wedi ennill unwaith mewn 16 o gemau (yn erbyn Llanelli).
Dyw Pen-y-bont heb guro clwb o’r Chwech Uchaf ers mis Medi (yn erbyn Bae Colwyn), a dyw tîm Rhys Griffiths heb sgorio mwy nag unwaith mewn gêm ers y golled o 5-4 yn erbyn y Gwylanod ym mis Tachwedd.
Bellach mae’r clwb ar rediad o 11 gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 4, colli 7), ac fe gyfaddefodd Rhys Griffiths nad yw’r clwb mewn lle delfrydol cyn y gemau ail gyfle**.**
"Mae gennym y record does neb eisiau sef tymor cyfan heb ennill un gic o'r smotyn, a gallem ni fod wedi cael hanner dwsin yn y mis diwethaf," meddai.
"Rydym yn teithio i Fae Colwyn lle ’dyn ni wedi colli ddwywaith yn barod y tymor yma... rydyn ni ar rediad gwarthus ac o bell ffordd nid ni yw'r ffefrynnau yn y gemau ail-gyfle."
Mae Pen-y-bont wedi cynrychioli Cymru’n Ewrop ddwywaith yn y tair blynedd diwethaf, ond dyw’r Gleision erioed ddim wedi ennill y gemau ail gyfle.
Noah Daley fydd y chwaraewr i’w wylio i’r ymwelwyr gan i’r blaenwr 23 mlwydd oed sgorio 11 gôl a chreu pump yn ei dymor cyntaf i Pen-y-bont yn y Cymru Premier JD.
O ran Bae Colwyn, Jordan Davies yw’r arf peryclaf gan iddo sgorio 13 o goliau a chreu pedair, yn cynnwys hatric o goliau yn erbyn Pen-y-bont ar Ffordd Llanelian yn rhan gyntaf y tymor.
Record cynghrair diweddar:
Bae Colwyn: ͏✅✅➖❌➖
Pen-y-bont: ❌❌➖❌❌