Paul Davies yn cadarnhau y bydd yn ymgeisio am swydd Llywydd y Senedd

paul davies.jpg

Mae’r Ceidwadwr Paul Davies wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu ymgeisio am swydd y Llywydd yn y Senedd.

Dywedodd cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod ganddo’r “profiad” a’r “dealltwriaeth” o reolau’r Senedd i ymgymryd â’r swydd.

Fe gafodd ei ail-ethol fel yr unig Geidwadwr yn etholaeth Ceredigion Penfro ddydd Iau. 

Mae’r Llywydd presennol, Elin Jones o Blaid Cymru, sydd wedi bod yn y swydd ers 2016, eisoes wedi dweud y bydd yn ildio’r awennau.

Pe bai’n llwyddiannus, Paul Davies fyddai pedwerydd Llywydd y Senedd, ar ôl Elin Jones, Rosemary Butler o’r Blaid Lafur, a fu yn y swydd rhwng 2011 a 2016, a Dafydd Elis-Thomas, a fu ynddi rhwng 1999 a 2011.

Mae dyfalu wedi bod y gallai'r cyn Ddirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies hefyd ymgeisio am swydd y Llywydd.

Bydd angen i ASau ethol y llywydd mewn pleidlais gyfrinachol ar ôl ail-ymgynull yn y Senedd, cyn iddyn nhw ddewis prif weinidog newydd.

"Mae llawer o ddyfalu wedi bod ers yr etholiad ynghylch pwy fydd yn cymryd rôl y Llywydd nesaf yn y Senedd,” meddai Paul Davies AS.

"Hoffwn ei gwneud yn glir, ar ôl ymgynghori â chydweithwyr ac ar ôl cael fy annog i wneud hynny gan eraill, y byddaf yn cynnig fy enw i fod y Llywydd nesaf.

"Mae gen i'r profiad i hyrwyddo Senedd Cymru ac mae gen i ddealltwriaeth glir o'i Rheolau Sefydlog a'i gweithdrefnau.

"Fel y Llywydd Dros Dro yn y Senedd flaenorol, ac fel cyn Gadeirydd Pwyllgor a Rheolwr Busnes yn Senedd Cymru, mae gen i'r sgiliau angenrheidiol i ymgymryd â'r rôl bwysig hon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.