John Swinney yn 'edrych ymlaen i gydweithio gyda Phrif Weinidog o Blaid Cymru'
Mae Prif Weinidog yr Alban wedi dweud ei fod yn “edrych ymlaen i gydweithio gyda Phrif Weinidog o Blaid Cymru”.
Dywedodd John Swinney o’r SNP y dylai’r posibilrwydd o dri Phrif Weinidog cenedlaetholgar yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon anfon neges glir at Brif Weinidog y DU.
Doedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb ddeffro eto i arwyddocâd y ffaith y gallai arweinwyr cenedlaetholgar ddal grym yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, meddai.
Wrth siarad â Newyddion S4C, rhoddodd deyrnged hefyd i Eluned Morgan, a gollodd ei sedd yn yr etholiad ddydd Gwener.
Ond dywedodd na allai pethau barhau fel “busnes fel arfer” o ran sut mae Llywodraeth y DU yn ymwneud â’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghaeredin, Caerdydd a Belfast.
Roedd “ymylon Celtaidd” y DU bellach “yng nghanol y llwyfan,” meddai.
Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg yng Nghaeredin brynhawn Sadwrn, dywedodd Mr Swinney ei fod yn gobeithio’n fawr y bydd arweinydd Plaid Cymru yn dod yn Brif Weinidog.
“’Dan ni’n rhannu’r un dyhead am newid cyfansoddiadol, ac mae gennym ni ffyrdd gwahanol o alw am hynny a beth yw ein blaenoriaethau,” meddai.
Pan ofynnwyd i John Swinney sut y byddai’n gweithio gyda’r gwledydd datganoledig eraill, Cymru a Gogledd Iwerddon, dywedodd mai lle Cymru oedd penderfynu ar ei dyfodol.
“Yr oll alla i ei ddweud yw, rydw i’n edrych ymlaen yn arw i gydweithio gyda Phrif Weinidog o Blaid Cymru a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, ac rydym yn edrych ymlaen i gydweithio er mwyn sicrhau bod lleisiau ein gwledydd yn cael eu clywed yn glir o fewn y Deyrnas Unedig,” meddai.
Wrth roi teyrnged i Eluned Morgan, dywedodd fod ganddo wastad “berthynas bositif a chadarnhaol gyda hi”.
“Dwi’n talu teyrnged i’w harweinyddiaeth yng Nghymru, ac yn amlwg mae’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi cael amser caled iawn, a dwi wedi anfon neges iddi y bore ’ma,” meddai.
Ategodd fod yn rhaid i swyddogion yn Whitehall ddeall nad yw hi’n “business as usual”.