Pardwn amodol i Ruth Ellis, y ddynes olaf ym Mhrydain i gael ei dienyddio

Ruth Ellis

Mae'r Brenin wedi derbyn cyngor y Llywodraeth i roi pardwn amodol i Ruth Ellis - y ddynes olaf i gael ei dienyddio yn y Deyrnas Unedig - yn ôl y Dirprwy Brif Weinidog, David Lammy.

Cafodd ei chrogi ym 1955 am lofruddio ei chariad, y gyrrwr ceir rasio David Blakely, yn dilyn achos yn Llys yr Old Bailey.

Roedd hi wedi saethu Blakely, oedd wedi bod yn dreisgar yn ystod eu perthynas, tu allan i dafarn The Magdala yn Hampstead.

Dywedodd Mr Lammy wrth Dŷ’r Cyffredin ddydd Mercher: “Mae’n anrhydedd gennyf ddweud bod Ei Fawrhydi’r Brenin wedi derbyn ein cyngor i roi pardwn amodol i Ruth Ellis, y fenyw olaf i gael ei chrogi yn y Deyrnas Unedig.

“Er nad yw’r pardwn yn honni ei bod yn ddieuog o ladd David Blakely, mae’n disodli’r gosb eithaf â dedfryd o garchar am oes i gydnabod anghyfiawnder dwfn yn yr achos eithriadol hwn.”

Y Rhyl

Cafodd Ruth Ellis ei geni yn Y Rhyl yn Sir Ddinbych yn 1926, cyn symud i fyw gyda'i theulu i Loegr pan yn blentyn.

Ar ôl bywyd ifanc heriol, gan gynnwys cael ei cham-drin gan ei thad, aeth yn ei blaen i weithio mewn clybiau nos yn Llundain.

Cyn cael ei chrogi, fe wrthododd yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, Gwilym Lloyd George, sef mab Lloyd George, gais gan ei chyfreithiwr i ohirio'r broses o'i dienyddio.

'Cyfiawnder o'r diwedd'

Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Laura Enston, wyres Ruth Ellis, mewn datganiad ddydd Mercher: “Heddiw, mae cyfiawnder wedi’i wneud o’r diwedd i’n mam-gu, Ruth Ellis - y fenyw olaf i gael ei chrogi yn Lloegr ym 1955.

“Nid yw’r pardwn hwn yn dadwneud yr hyn a ddigwyddodd 71 mlynedd yn ôl. Nid yw’n adfer y bywydau a chwalwyd - y plant a adawyd ar ôl, y blynyddoedd a gollwyd. Ond mae’n datgan, yn ffurfiol ac yn derfynol, na ddylai Ruth fod wedi cael ei dienyddio; bod y system gyfiawnder wedi methu â’i diogelu. 

"Mae’r gydnabyddiaeth honno o bwys mawr i’n teulu.

“Roedd Ruth yn ddioddefwr cam-drin parhaus a creulon. Ni wnaeth ei phlant - ein mam a’n hewythr - wella erioed. Fe gymerodd fy ewythr ei fywyd ei hun; oherwydd y trawma a ddioddefodd, ni allai fy mam fod y rhiant yr oedd ei angen arnom."

'Cario cywilydd'

Ychwanegodd fod cysgod dienyddiad Ruth Ellis wedi "effeithio ar ddwy genhedlaeth" a'u bod wedi "cario cywilydd nad oedd yn perthyn i ni ei ysgwyddo".

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Ysgrifennydd Cyfiawnder (David Lammy) am gael y dewrder i weithredu. 

"Gobeithiwn y bydd stori Ruth yn atgof parhaol bod yn rhaid i’r system gyfiawnder wynebu’r mater o gam-drin sy’n gwthio menywod i’r eithaf - ac na ddylai byth ofni cydnabod pan fo camgymeriadau wedi’u gwneud.”

Cafodd rhaglen am fywyd a marwolaeth Ruth Ellis ei darlledu ar S4C y llynedd - mae modd gwylio 'Ruth Ellis - y Cariad a'r Crogi' yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.