Noel Mooney: Deall bod gan bobl 'uchelgais' wrth drafod dyfodol Craig Bellamy â Chymru

Noel Mooney: Deall bod gan bobl 'uchelgais' wrth drafod dyfodol Craig Bellamy â Chymru

Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud ei fod yn deall bod gan bobl "uchelgais" wrth drafod dyfodol Craig Bellamy fel rheolwr Cymru, yn dilyn y dyfalu ei fod ar fin gadael i reoli Burnley.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd Noel Mooney fod y diwydiant pêl-droed yn "enfawr" a bod gan bobl "amcanion gwahanol."

Ar hyn o bryd, mae dyfalu mai Craig Bellamy fydd rheolwr nesaf Burnley. Treuliodd gyfnod fel rheolwr cynorthwyol yno rhwng 2022 a 2024.

Nid oes gan y clwb reolwr ar hyn o bryd ar ôl i Scott Parker adael y swydd ym mis Ebrill.

Dywedodd Noel Mooney ei fod yn deall bod "cyfleoedd eraill" yn dod i'r amlwg yn y byd pêl-droed.

"Mae Craig wedi bod yn wych i ni o ran y pêl-droed rydyn ni’n ei chwarae, a’r egni sydd gyda ni," meddai.

"Ond wrth gwrs, mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r ffaith ein bod ni mewn diwydiant pêl-droed enfawr, a bod gan bobl amcanion gwahanol.

"Yn fy marn i, fe fydd Craig yn mynd ymlaen i fod yn hyfforddwr byd-eang o’r radd flaenaf. Mae e wrth ei fodd â rhythm a dwyster pêl-droed o ddydd i ddydd.

"Felly’r broblem rydym ni wastad wedi’i chael gydag e yw’r bylchau rhwng y ffenestri rhyngwladol."

Ychwanegodd Mooney: "Mae e’n rhywun sy’n llawn egni ac yn byw ac anadlu pêl-droed. 

"Mae e’n caru’r gêm, mae e’n caru ei wlad, ac roedd hynny’n disgleirio’n glir iawn yn ystod ei amser gyda ni - ei fod e’n caru pêl-droed Cymru.

"Roedden ni wastad yn agored i’r ffaith bod gan bobl uchelgais bersonol, bod cyfleoedd yn codi, ac weithiau bod rhywun wedi gwneud rhywbeth gwych mewn sefydliad ac yna bod cyfle arall yn dod i’r amlwg."

Image
Craig Bellamy
Mae Bellamy wedi ennill naw o'i 22 gemau fel rheolwr Cymru.

Cafodd Craig Bellamy ei benodi'n rheolwr Cymru ar 9 Mehefin 2024 ar ôl i Gymdeithas Bêl-droed Cymru ddod â chytundeb Rob Page fel rheolwr i ben.

Ni chollodd Bellamy ei bedair gêm gyntaf wrth y llyw ac fe enillodd ddyrchafiad i Gynghrair A yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.

Methodd â chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd eleni, ar ôl i Gymru golli ar giciau o'r smotyn yn erbyn Bosnia yn rownd gyn-derfynol y gemau ail-gyfle.

Mae gan Bellamy, sydd yn 46 oed, ddwy flynedd yn weddill ar ei gytundeb gyda Chymru.

Mae Noel Mooney wedi "mwynhau pob diwrnod hyd yma" o weithio gyda Bellamy, meddai, gan ddweud mai Cymdeithas Bêl-droed Cymru "fydd ei gartref" am byth.

"Mae’n rhaid bod yn agored i’r ffaith bod pobl yn gallu mynegi eu hunain mewn gwahanol ffyrdd. Ond mae Craig wedi bod yn arbennig i bêl-droed Cymru," meddai.

"Mae e wedi bod yn wych i weithio gydag e, mae e’n hyfforddwr gwych, ond yn bwysicach i mi, mae e’n berson gwych - yn fod dynol hyfryd.

"Rwyf wedi mwynhau pob diwrnod hyd yma o weithio gydag e, ac, wyddoch chi, beth bynnag ddaw yn y dyddiau neu’r wythnosau nesaf i ni ac i Craig, rydym yn dymuno… mae ei gartref yma yn y Gymdeithas Bêl-droed, a bydd hynny wastad yn wir."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.