Nifer uchaf erioed yn cael eu harestio ar amheuaeth o fod yn bedoffiliaid
Mae 1,000 o bobl sydd o dan amheuaeth o fod yn bedoffiliaid yn cael eu harestio bob mis yng Nghymru a Lloegr, sef y nifer fwyaf erioed, yn ôl yr heddlu.
Ac yn ôl eu hystadegau, mae plismyn yn cael eu galw i amddiffyn mwy na 1,200 o blant bob mis rhag camdriniaeth.
Yn ôl y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Becky Riggs sy'n arwain yr ymgyrch i warchod plant, mae'r ffigurau yn adlewyrchu graddfa'r bygythiad.
A rhybuddiodd bod heriau yn wynebu'r heddlu.
“Rydym angen ymateb i'r system gyfan, sydd yn cynnwys sicrhau fod gan bobl lefydd diogel a chyfrinachol er mwyn gallu chwilio am gymorth cyn iddynt groesi’r llinell,” meddai.
Mae'r sefydliad Lucy Faithfull Foundation yn rhedeg llinell gymorth er mwyn atal pedoffiliaid rhag edrych ar luniau anweddus o blant neu gam-driniaeth.
Maen nhw'n annog rhai sydd yn poeni am eu hymddygiad rhywiol ar-lein, neu’n amheus am ymddygiad y rhai agosaf atynt i ddefnyddio’r llinell.
Yn 2025, cafodd 330,610 o bobl fynediad at wasanaeth ‘Lucy Faithfull Foundation’, ac mae cynnydd o 20% yn y niferoedd sy'n defnyddio’r gwasanaeth ers 2024.
Roedd 26% a ddefnyddiodd y llinell cymorth y llynedd yn rhiant, ac roedd 34% yn briod.
Dywedodd Ms Riggs, “Rydyn yn annog unrhyw un sy’n poeni am eu hymddygiad, neu rywun sydd yn agos atynt, i ofyn am gymorth nawr. Mae ymyrraeth gynnar yn gwarchod plant, ac mae’n atal bywydau rhag cael eu niweidio am byth.”
Dywedodd pennaeth seicolegol Lucy Faithfull Foundation, Dr Alexandra Bailey, “Er mwyn atal ymddygiad camdriniaeth plant ar-lein, rhaid i bobl deall fod ymddygiad yn medru dwysáu i'r pwynt ble mae’n achosi niwed, ond hefyd mae newid yn bosib.
“Nid esgusodi ymddygiad niweidiol yw annog bobl i ofyn am gymorth yn fuan – mae'n ymwneud ag atal camdriniaeth cyn i blentyn gael niwed ” meddai.