Nifer o drefi glan môr Cymru'n gweld y cynnydd mwyaf mewn prisiau tai
Mae nifer o drefi yng Nghymru wedi gweld y cynnydd mwyaf ym mhrisiau tai mewn lleoliadau ger glan y môr drwy'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys Llanilltud Fawr (cynnydd o 9%) a Llanelli yn Sir Gâr (cynnydd o 7%).
Roedd prisiau tai ym Mhenarth wedi gweld cynnydd o 8% flwyddyn ar flwyddyn i gyfartaledd o £433,091 - yr uchaf o'r 10 tref glan môr sy'n tyfu gyflymaf o ran gwerth eu tai.
Pris cyfartalog eiddo yn y DU a ddaeth i'r farchnad ym mis Mai oedd £378,304, yn ôl y gwerthwyr tai Rightmove.
Ar hyn o bryd mae prisiau gofyn 0.3% yn is ym Mhrydain ar gyfartaledd o'i gymharu â'r llynedd, ond mae rhai lleoliadau glan môr yn mynd yn groes i'r duedd honno.
Dywedodd Rightmove fod byw ar yr arfordir yn parhau i fod yn gymharol fforddiadwy o'i gymharu â rhannau eraill o'r wlad.
Dyma'r 10 lleoliad glan môr gyda'r twf uchaf mewn prisiau tai o flwyddyn i flwyddyn, yn ôl Rightmove, a'r pris gofyn cyfartalog:
1. Bootle, Glannau Mersi, i fyny 11% i £141,680
2. Crosby, Glannau Mersi, i fyny 9% i £330,900
3. Penarth, Bro Morgannwg, i fyny 8% i £433,081
4. Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg, i fyny 8% i £340,033
5. Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Cymru, i fyny 7% i £201,570
6. Wallasey, Glannau Mersi, i fyny 7% i £200,753
7. Bangor, Gwynedd, i fyny 7% i £220,622
8. Porthcawl, Bro Morgannwg, Cymru, i fyny 6% i £359,412
9. Barrow-In-Furness, Cumbria, i fyny 6% i £185,169
10. Helensburgh, Sir Dunbarton, yr Alban, i fyny 6% i £247,953
Dywedodd Colleen Babcock, arbenigwr eiddo Rightmove: “Mae’r marchnadoedd glan môr sy’n tyfu gyflymaf eleni yn dangos bod y galw am gartrefi arfordirol yn parhau i fod yn wydn, hyd yn oed wrth i dwf prisiau cyffredinol ledled y DU barhau i fod yn fwy cymedrol.
“Er bod rhai lleoliadau’n gweld cynnydd cryf mewn prisiau, mae yna lawer o ardaloedd o hyd lle mae byw wrth y môr yn fwy fforddiadwy, gan roi ystod ehangach o opsiynau i brynwyr yn dibynnu ar eu cyllideb.
“Rydym hefyd yn gweld bod tai sydd wedi’u prisio’n realistig yn parhau i ddenu diddordeb, yn enwedig mewn lleoliadau lle mae twf prisiau yn cael ei gefnogi gan alw prynwyr.”
