'Nid wyf yn gyfrifol am droseddau fy ngŵr,' meddai Nicola Sturgeon

Sturgeon / Murrell

Mae cyn Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, yn teimlo fel pe bai wedi’i “dedfrydu am drosedd na wnes i ei chyflawni” wedi i’w gŵr bledio’n euog i ddwyn dros £400,000 oddi wrth yr SNP.

Mae Peter Murrell, 61 oed, wedi cyfaddef cyhuddiadau o embeslu (embezzle) arian ac mae wedi ei gadw yn y ddalfa. Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 23 Mehefin.

Mae Murrell, cyn-brif weithredwr yr SNP, yn parhau i fod yn ŵr i Ms Sturgeon, ond mae’r ddau wedi gwahanu.

Mewn cyfweliad gyda’r BBC, dywedodd Ms Sturgeon: “Nid wyf yn gyfrifol am y troseddau mae fy nghyn-ŵr wedi eu cyflawni, ac nid wyf am ymddiheuro am droseddau unigolyn arall.”

Yn y cyfweliad, mae Ms Sturgeon yn gwadu unrhyw wybodaeth am droseddau Murrell, a gafodd eu cyflawni rhwng 2010 a 2022.

Roedd Nicola Sturgeon yn arweinydd yr SNP rhwng 2014 a 2023, mewn rôl oedd yn rhannu cyfrifoldeb dros fonitro cyfrifon y blaid.

Cafodd ei chwestiynu yn ystod yr ymchwiliad i’r troseddau ond ni chafodd ei chyhuddo.

Mewn cyfweliad ar raglen Sunday with Laura Kuenssberg, fe wnaeth Ms Sturgeon rannu atgofion o dderbyn anrhegion gan Murrell a ddaeth i’r amlwg yn ddiweddarach eu bod wedi eu talu amdanynt gydag arian oedd wedi’i ddwyn.

Dywedodd Sturgeon: "Er fy mwyn fy hun, ac er mwyn pobl allan yna, mae llawer o fenywod sy'n cael eu beio am weithredoedd y dynion yn eu bywydau, dydw i ddim am gyfrannu at y math yna o ymdeimlad fy mod i'n gyfrifol am droseddau rhywun arall."

Ychwanegodd: "Byddaf yn cymryd cyfrifoldeb am y pethau rwy'n eu gwneud, y penderfyniadau rwy'n eu gwneud. Rwy'n eistedd yma gyda chi ar hyn o bryd, yn ateb cwestiynau oherwydd fy mod yn credu'n gryf yn yr atebolrwydd hwnnw.

"Ond dydw i ddim yn gyfrifol am y troseddau a gyflawnodd fy nghyn-ŵr ac dydw i ddim am ymddiheuro am droseddau rhywun arall."

Troseddau

Yn ystod achos Peter Murrell, roedd 126 tudalen o gyhuddiadau yn ei erbyn yn manylu ar gannoedd o eitemau a brynodd gan ddefnyddio'r arian a gafodd ei ddwyn.

Roedd yr eitemau eraill a brynodd gyda’r arian yn cynnwys llyfr o areithiau ei wraig, gêm gyfrifiadur Grand Theft Auto V, ac wyth ymbarél werth £1,990.50.

Roedd hefyd wedi prynu cartref modur, ac fe gyfrannodd yr arian at brynu dau gar.

Roedd wedi ei gyhuddo o ddwyn yr arian oddi wrth Blaid Genedlaethol yr Alban rhwng Awst 2010 a Hydref 2022.

Fe wnaeth gyfaddef i gyhuddiad diwygiedig a oedd yn gostwng swm yr arian a gafodd ei ladrata o fwy na £459,000, i £400,310.65.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.