Network Rail yn dwyn achos cyfreithiol wedi damwain trên yn Sir Gâr
Mae cwmni Network Rail yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn dau gwmni rheilffordd gan geisio hawlio dros £5 miliwn mewn iawndal yn dilyn damwain lle aeth trên oddi ar y cledrau yn Sir Gaerfyrddin.
Fe wnaeth tua 450,000 litr o danwydd ollwng yn dilyn y ddamwain gan bron ac achosi "trychineb" amgylcheddol, yn ôl dogfennau'r Uchel Lys.
Cyflwynodd y cwmni, sy'n rheoli seilwaith rheilffyrdd Cymru, Lloegr a'r Alban, hawliad cyfreithiol yn gynharach y mis hwn yn erbyn DB Cargo UK a Touax Rail.
Digwyddodd y ddamwain ger Llangennech ym mis Awst 2020.
Yn y digwyddiad, aeth 10 o wagenni'r trên, oedd yn cynnwys 25 wagen i gyd, oddi ar y cledrau, gan achosi i 446,000 o litrau o danwydd ollwng.
Fe aeth 116,000 o litrau ar dân, gyda 330,000 o litrau yn llifo i wlyptiroedd cyfagos, sy'n rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig.
Chafodd neb ei anafu, ond cafodd tua 300 o bobl eu symud o'r ardal oherwydd y tân, a gymerodd bron i ddau ddiwrnod i'w ddiffodd.
Nam technegol
Daeth y corff sydd yn ymchwilio i ddamweiniau rheilffordd (RAIB) i'r casgliad ym mis Ionawr 2022 bod y ddamwain wedi'i hachosi gan set o olwynion ar un o'r wagenni yn cloi o ganlyniad i nam ar y brêc aoedd yn deillio o ddiffygion yn nyluniad a gwaith cynnal a chadw'r cydrannau.
Mae Network Rail bellach yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn DB Cargo UK, a oedd yn gweithredu'r trên, ac yn erbyn Touax, a oedd yn berchen ar y wagen.
Mae gwrandawiad yr achos eto i'w gynnal.
Cafodd y rheilffordd ei chau am chwe mis yn dilyn y digwyddiad ac ni chafodd ei hailagor yn llawn am bron i flwyddyn, gan fod angen cloddio 30,000 tunnell o bridd oedd wedi'i socian mewn tanwydd.
Dywedodd Bill Kelly, a oedd yn gyfarwyddwr llwybrau Network Rail yng Nghymru ar y pryd, pan ailagorodd y rheilffordd yn llawn ym mis Mawrth 2021, fod y gwaith yn dilyn y digwyddiad yn “un o'r gweithrediadau adfer amgylcheddol mwyaf y mae Network Rail wedi cymryd rhan ynddynt erioed”.
Gwrthododd Network Rail a DB Cargo wneud unrhyw sylw, tra bod Touax wedi cael cais am ymateb.
