Mwy na 4 o bob 10 banc bwyd yn ddifrifol brin o stoc cyn y gaeaf

Banc Bwyd PA

Mae mwy na phedwar o bob 10 banc bwyd yn ddifrifol brin o adnoddau cyn y gaeaf, yn ôl elusen gwrth-dlodi.

Mae bron i hanner y banciau'n teimlo bod y sefyllfa eleni'n galetach nag o'r blaen.

Mewn arolwg gan Ymddiriedolaeth Trussell o'i rhwydwaith o fanciau bwyd, dywedodd 43% o'r banciau fod nifer y rhoddion maen nhw'n eu derbyn ar lefel "ddifrifol o isel".

Dywedodd 46% o'r rhai wnaeth ymateb eu bod yn teimlo bod paratoi ar gyfer y gaeaf hwn yn fwy heriol nag yn y blynyddoedd blaenorol.

Y rhesymau oedd gostyngiad mewn rhoddion, costau cynyddol a galw uchel parhaus.

Mewn apêl, mae'r ymddiriedolaeth yn rhybuddio bod angen adnoddau ar y banciau bwyd cyn cyfnod prysuraf y flwyddyn.

Mae disgwyl i fanciau bwyd Trussell ddarparu dros 600,000 o barseli bwyd brys dros y gaeaf, sy'n gyfystyr ag un parsel bob 12 eiliad, meddai'r elusen.

“Mae banciau bwyd yn parhau i dderbyn pobl sy’n gorfod mynd heb brydoedd, heb wres, ac sy’n eistedd yn y tywyllwch gan eu bod methu fforddio pethau sylfaenol fel pethau ‘molchi, biliau a rhent,” meddai Emma Revie, cyd-brif weithredwr Trussell.

“Mae silffoedd pobl yn wag, felly ni all y banciau bwyd fod yn wag. Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n medru i gyfrannu bwyd neu arian y gaeaf hwn.”

Cwymp mewn cyfraniadau

Yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell, roedd nifer y rhoddion bwyd i'w banciau 40% yn is yn ystod gaeaf 2025-26 nag yn yr un cyfnod yn 2022-23.

Mae hyn yn golygu bod banciau'n gwario "miliynau o bunnoedd" i brynu bwyd i stocio'u silffoedd. Fe wnaethon nhw brynu bron i 5,900 tunnell o fwyd yn 2025 er mwyn llenwi'r bylchau a achoswyd gan y diffyg cyfraniadau.

Dywedodd yr elusen fod cysylltiad uniongyrchol rhwng yr argyfwng costau byw ehangach a'r cwymp mewn cyfraniadau.

Dim ond 6% o'u stoc bwyd roedd banciau bwyd yn gorfod ei brynu yn 2021, ond erbyn 2025 roedd y ffigur wedi codi i 25%.

Mae'r elusen yn annog y cyhoedd i gyfrannu i'w banc bwyd lleol, i apêl gaeaf Trussell, neu drwy ymgyrch casglu bwyd Tesco, sy'n cael ei chynnal rhwng 26 a 28 Tachwedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.