Mwy o hediadau wedi’u canslo yn sgil problem gyda system traffig awyr

Oedi Maes Awyr Heathrow. Llun: Jonathan Brady/PA
Oedi Maes Awyr Heathrow

Mae mwy o hediadau o’r Deyrnas Unedig wedi cael eu canslo fore Mercher yn sgil problemau gyda system rheoli traffig awyr.

Brynhawn Mawrth, fe gyhoeddodd cwmni NATS fod “problem dechnegol” gyda’i system brosesu hediadau yn atal rhai awyrennau rhag cychwyn ar eu taith. Mae NATS yn rheoli traffig mewn tua 15 maes awyr ar draws y DU.

Roedd Maes Awyr Caerdydd ymhlith y meysydd awyr sydd dan reolaeth y cwmni, yn ogystal â meysydd awyr mawr fel Heathrow, Gatwick, Bryste a Manceinion.

Yn ôl gwefan Flightradar24, y sefyllfa am 06:00 fore Mercher oedd bod 246 o hediadau wedi cael eu canslo o Faes Awyr Heathrow, tra bod 33 wedi cael eu canslo ym Maes Awyr Gatwick.

Nid ymosodiad seibr sydd yn gyfrifol am y problemau technegol, meddai prif weithredwr NATS, Martin Rolfe.

“Dwi a fy nghydweithwyr wedi bod yn canolbwyntio ar drwsio’r system a’i chael i weithio fel arfer, ac mae hynny wedi digwydd erbyn hyn,” meddai wrth raglen Today ar Radio 4.

“Ond yn amlwg mae oedi mawr wedi digwydd a byddwn yn gweithio ar hynny drwy gydol y dydd. Wedyn bydd ein ffocws yn troi at yr hyn sydd wedi digwydd yn yr achos penodol hwn.”

"Dwi ddim yn credu ein bod ni wedi gweld y digwyddiad penodol hwn fwy nag unwaith, felly mae hwn yn rhywbeth gwahanol nad ydym erioed wedi ei weld mewn 50 mlynedd o weithredu."

Ychwanegodd fod "pethau, yn anochel, yn mynd o'i le"ac fe wnaeth osgoi cwestiynau am alwadau iddo ymddiswyddo.

Image
Teithwyr yn wynebu oedi ym Maes Awyr Heathrow. Llun: Jonathan Brady/PA
Teithwyr yn wynebu oedi ym Maes Awyr Heathrow. Llun: Jonathan Brady/PA

Bydd Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Heidi Alexander, yn siarad â Mr Rolfe ddydd Mercher. Mae disgwyl iddi siarad yn San Steffan yn ddiweddarach yn ystod ail ddarlleniad y Bil Hedfan Sifil.

Dywedodd Ryanair fod mwy na 65,000 o’u teithwyr wedi cael eu heffeithio a bod y cwmni wedi canslo dros 50 o hediadau.

Fe wnaeth Neal McMahon, prif swyddog gweithredu Ryanair, alw ar Mr Rolfe i ymddiswyddo, gan ddweud: “Faint mwy o fethiannau y mae’n rhaid i deithwyr eu dioddef cyn i Martin Rolfe dderbyn cyfrifoldeb am ei gamreolaeth dro ar ôl tro ac ymddiswyddo?”

Wrth ymateb, dywedodd Mr Rolfe: “Roedd pawb ar y safle, roedd pawb yn y lle iawn. Roedd yr holl beirianwyr yn eu lle. Roedd ein partneriaid amrywiol o’r diwydiant meddalwedd wrth law.

“Felly cafodd hyn ei ddatrys cyn gynted ag oedd modd, ond gan sicrhau bod pawb yn ddiogel.”

Glanio brys yng Nghaerdydd

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd ddydd Mawrth fod y problemau yn effeithio ar hediadau yno hefyd.

“Mae problem dechnegol sy’n effeithio ar Reolaeth Traffig Awyr NATS yn tarfu rhywfaint ar ymadawiadau hediadau ar draws rhannau o’r DU, gan gynnwys Caerdydd,” meddai’r maes awyr mewn datganiad.

“Rydyn ni’n annog teithwyr i wirio gyda’u cwmni hedfan neu weithredwr teithio am y wybodaeth ddiweddaraf am statws eu hediad.”

Ymhlith yr awyrennau sydd bellach yng Nghaerdydd mae awyren British Airways oedd ar ei ffordd o Heathrow i Shanghai.

Nid dyma’r tro cyntaf i NATS daro’r penawdau. Fis Gorffennaf diwethaf, cafodd hediadau ar draws y DU eu canslo yn sgil problemau gyda radar yng nghanolfan reoli’r cwmni yn Hampshire.

Ym mis Awst 2023, cafodd dros 1,600 o hediadau eu canslo neu eu gohirio – gan effeithio ar dros 700,000 o bobl – oherwydd problemau technegol yn ymwneud â data teithiau awyr yn systemau’r cwmni.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.