Môn: Ymdrech 'ddewr' i achub dyn wedi'i anafu'n ddifrifol ar long
Roedd yn rhaid i aelodau o griw bad achub o Ynys Môn ddringo ar long oedd wedi'i hangori yn y môr er mwyn achub dyn oedd wedi anafu ei goes yn ddifrifol.
Am tua 10:45 ddydd Gwener, cafodd criw Bad Achub Moelfre eu galw i argyfwng meddygol ar fwrdd llong masnach oedd wedi’i hangori ryw chwe morfilltir (nautical miles) tua’r gogledd o Foelfre.
Roedd y llong 182 medr wedi galw gwylwyr y glannau wedi un o’i chriw ddioddef anaf difrifol i’w goes wrth weithio gyda bad achub y llong.
O fewn 15 munud o’r alwad, roedd gwirfoddolwyr bad achub Moelfre ar eu ffordd, gyda hofrennydd chwilio ac achub o Gaernarfon yn cynnig cefnogaeth o’r awyr.
Ar ôl lleoli’r bad achub yn agos i’r llong, fe ddringodd dau aelod o'r criw i fyny ysgolion peilot 10 medr o uchder ac ar fwrdd y llong.
Cawsant eu tywys i’r dyn yn ei 30au, oedd wedi gwasgu’i goes mewn peirianwaith trwm.
Roedd y dyn wedi torri’i goes mewn dau le ac wedi dioddef clwyfau dwfn, ond roedd ei gyd-weithwyr wedi llwyddo i atal rhagor o waedu.
Fe wnaeth y ddau aelod, y dirprwy lywiwr Martin Jones a’r aelod Ellie Jones, rhoi asesiad meddygol i’r dyn â’i drin.
Cafodd parafeddyg o’r hofrennydd achub 336 ei gludo ar fwrdd y llong ar winsh, cyn penderfynu bod angen ei gludo i’r ysbyty ar unwaith.
Cafodd y dyn ei gludo ar gludwr (stretcher) i ardal agored o’r llong, cyn cael ei godi â winsh ar yr hofrennydd.
Cafodd ei hedfan i’r ysbyty yn Lerpwl ar unwaith am lawdriniaeth arbenigol.
'Diolch'
Fe wnaeth un aelod o griw'r llong, ddiolch i'r bad achub a gwylwyr y glannau am eu "hymdrech wych" i achub ei gyd-weithiwr.
Dywedodd Deniz Genoglu: "Mae criw yn llong yn yr ysbyty yn Lerpwl a'r gobaith yw y bydd yn gwella'n llawn ac yn cael mynd yn ôl at ei deulu yn fuan."
Dywedodd Llywiwr Bad Achub Moelfre, Vince Jones: “Roedd hwn yn ymgyrch aml-asiantaeth arbennig, a lwyddodd i sefydlogi, rhoi triniaeth a thywys dyn oedd angen sylw meddygol arbenigol, mewn modd diogel.
“Fe wnaeth ein criw dewr ddringo i fyny ysgol beilot 10 medr gyda’i holl offer er mwyn cyrraedd y claf, a hynny o fewn 30 munud o dderbyn yr alwad.
“Hoffwn ddymuno gwellhad buan i’r dyn a hoffwn ddiolch i bawb oed dyn rhan o’r canlyniad llwyddiannus.”
Lluniau: RNLI Moelfre
