Môn: Gwasanaeth i nodi canrif ers i gloc Gwalchmai gael ei adeiladu
Môn: Gwasanaeth i nodi canrif ers i gloc Gwalchmai gael ei adeiladu
Fe gafodd gwasanaeth arbennig ei gynnal ym mhentref Gwalchmai ym Môn ddydd Iau i nodi canrif union ers i gloc nodedig y pentref gael ei adeiladu.
I nodi'r achlysur, cafodd capsiwl amser a oedd yn llawn bob math o eitemau ei roi y tu mewn i'r cloc, a fe fydd yn parhau yno tan y flwyddyn 2126.
Roedd y gwasanaeth a gynhaliwyd ddydd Iau yn nodi can mlynedd union ers i'r cloc gael ei adeiladu yn y pentref.
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Cymuned Trewalchmai Sharon Jones: "Mae'r cloch yn 100 oed, a mi ydan ni wedi penderfynu 'san ni'n gwneud gwasanaeth neu is-bwyllgor.
"Ma' 'na ryw bedwar neu bump wedi helpu allan a wedi trio dilyn trefn gwreiddiol y gwasanaeth efo rhei o'r darlleniadau ag ambell i emyn.
Cafodd y cloc ei godi i gofio am drigolion y pentref a wasanaethodd yn y rhyfeloedd byd.
"Mae o'n golygu lot i mi achos yn digwydd bod, ma' gen i ewythr ar y cloc hefyd wedi ei nodi yn fano," meddai Sharon Jones.
"Mae'r diolch mwyaf i Ysgol y Ffridd am eu cyfraniad nhw, mae o wedi bod yn rhagorol."
Roedd cyfle hefyd i gadw bob math o drysorau dan glo er mwyn i drigolion ymhen 100 mlynedd gael edrych yn ôl ar yr union foment.
O fewn y capsiwl mae llun o'r person hynaf i gael ei eni yng Ngwalchmai, Owen Evans a'i dad, Huw Evans y tu allan i'w cartref ynghyd â llun o Owen yn lifrai’r fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Roedd lluniau eraill o Owen Evans yn ei gynnwys ef yn rhan o glwb pêl-droed Gwalchmai yn y 1950au, yn ogystal â llun ohono yn rhan o gynhyrchiad cerddorol a berfformiwyd yng Ngwalchmai.
Bellach mae'n 101 mlwydd oed a'r llun diweddaraf yn y capsiwl yw ef yn rhoi'r holl luniau yn y capsiwl amser.
