Merch 17 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad yn Sir Conwy

Ffordd Rhydyfoel

Mae merch 17 oed wedi marw yn dilyn digwyddiad yn Llanddulas, Sir Conwy.

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod y ferch wedi cael ei darganfod yn ardal Craig Nant Dulas ar Ffordd Rhyd-y-foel ychydig cyn 09:30 ddydd Llun.

Fe aeth y gwasanaethau brys yno, yn ogystal â dau ambiwlans awyr a gwirfoddolwyr achub mynydd, ond roedd y ferch wedi marw yn y fan a'r lle.

Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

Dywedodd y Prif Arolygydd Steve Pawson: "Mae fy meddyliau a chydymdeimladau gyda'i theulu, sydd wedi cael gwybod am y digwyddiad trasig yma.

"Gofynnwn yn garedig bod preifatrwydd y teulu yn cael ei barchu yn ystod yr amser anodd hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.