Menywod Cymru wedi gweld y dirywiad gwaethaf yn eu hiechyd yn y DU
Mae menywod yng Nghymru yn wynebu llai o flynyddoedd o iechyd da nag mewn unrhyw ran arall o’r DU, yn ôl astudiaeth newydd.
Yn ôl ymchwil gan y Health Foundation, mae disgwyliad oes iach menywod yng Nghymru wedi syrthio 3.7 mlynedd dros y degawd diwethaf.
Dywedodd y felin drafod fod y gwahaniaethau yn nifer y blynyddoedd iach a gaiff pobl eu byw rhwng ardaloedd cefnog a difreintiedig wedi ehangu dros y degawd diwethaf.
Gall menywod yng Nghymru edrych ymlaen at 58.5 o flynyddoedd o iechyd da yn unig o’u cymharu â 59.2 ar gyfer dynion yng Nghymru.
Gall menywod yn Lloegr edrych ymlaen at 61.3 o flynyddoedd o iechyd da, menywod yn yr Alban at 59.4 a menywod yng Ngogledd Iwerddon at 60.7.
“Ar draws y cenhedloedd datganoledig fe syrthiodd disgwyliad oes iach yn gyflymach ar gyfer menywod na dynion,” meddai’r astudiaeth.
“Yng Nghymru, mae disgwyliad oes iach menywod wedi syrthio 3.7 mlynedd dros y degawd, gan adael menywod â disgwyliad oes iach is na dynion a’r disgwyliad oes iach isaf yn y DU.”
'Cost economaidd'
Fe wnaeth Health Foundation ddarganfod hefyd fod disgwyliad oes iach gyfartalog yn y DU wedi gostwng tua dwy flynedd dros y degawd rhwng 2012–14 a 2022–24.
Llundain oedd yr unig ran o’r DU i weld cynnydd mewn disgwyliad oes iach dros gyfnod o ddegawd, meddai’r felin drafod.
Gall pobl yn ardaloedd cyfoethocaf y DU fwynhau 20 mlynedd yn fwy o iechyd da na’r rhai yn yr ardaloedd tlotaf, yn ôl yr adroddiad.
Dywedodd y felin drafod iechyd fod y gostyngiad hwn yn creu cost economaidd sylweddol.
Dywedodd Andrew Mooney, prif ddadansoddwr data’r felin drafod: “Mae gan y DU y lefelau uchaf o ordewdra yng ngorllewin Ewrop ac mae cynnydd mawr wedi bod mewn salwch meddwl, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.”
Ychwanegodd fod hyn wedi creu “cost economaidd sylweddol, gyda salwch yn gyrru pobl allan o’r gweithlu ac yn rhwystro pobl ifanc rhag addysg, cyflogaeth a hyfforddiant”.
Ymateb
Mae Newyddion S4C wedi holi prif bleidiau gwleidyddol etholiad y Senedd ar 7 Mai am eu hymateb.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: “Mae’r ffigurau hyn yn peri pryder mawr ac yn tynnu sylw at ganlyniadau 27 mlynedd o Lafur, ar y cyd gyda Plaid Cymru, yn camreoli’r GIG ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru.
“Mae disgwyliad oes sy’n gostwng yn dangos nad yw gormod o bobl yn cael y gofal a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau hirach ac iachach.
“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn datgan argyfwng iechyd, yn cryfhau atal a diagnosis cynnar ac yn cyflwyno cynllun gweithlu i sicrhau y gall cleifion gael mynediad at ofal amserol o ansawdd uchel.”
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru:
"Ar ôl 27 mlynedd o lywodraeth Lafur yn rhedeg ein gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, mae safonau iechyd yn gostwng, a phobl Cymru, yn enwedig menywod, sy'n talu'r pris.
"Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gweithredu ar unwaith i sicrhau ein bod yn codi safonau yn ein gwasanaeth iechyd drwy leihau rhestrau aros, a symud tuag at system iechyd ataliol i gadw pobl yn iachach yn hirach.
"Er mwyn gwell safonau iechyd menywod yng Nghymru, byddwn ni yn cryfhau'r Cynllun Iechyd Menywod ac yn lleihau oedi mewn diagnosis a thriniaeth i fenywod mewn meysydd fel canser, diabetes ac iechyd meddwl, yn ogystal â chyflyrau sy'n effeithio'n bennaf ar fenywod fel endometriosis a'r menopos.
"Mae Llywodraeth Plaid Cymru yn cynnig arweinyddiaeth newydd i'n gwasanaeth iechyd gyda chynlluniau i fynd i'r afael a'r heriau mae'r gwasanaeth yn wynebu o'r diwrnod cyntaf."
Dywedodd Ian Chandler, Llefarydd Iechyd Plaid Werdd Cymru: “Nid mewn ysbytai y mae iechyd yn dechrau — mae’n dechrau yn ein cartrefi, ein cymdogaethau a’n hamgylchedd.
"Byddai y Blaid Werddd yn rhoi llesiant a thegwch wrth galon gwneud penderfyniadau, fel bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i fyw bywyd hirach ac iachach.”