Menywod Cymru efo'r potensial i gyrraedd Cwpan y Byd medd Wilkinson
Mae Rhian Wilkinson wedi dweud bod gan dîm pêl droed merched Cymru'r potensial i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd.
Daw hyn ar ôl i'r tîm cenedlaethol guro'r Weriniaeth Tsiec o 3-1 yng Nghaerdydd.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru wedi gorffen ar frig eu grŵp yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Mae hefyd yn golygu y bydd gan y garfan lwybr mwy ffafriol yn y gemau ail gyfle yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Bydd Cymru yn cael gwybod pwy yw eu gwrthwynebwyr ar 18 Mehefin.
Mae Lloegr hefyd yn wynebu gorfod chwarae gemau ail gyfle ar ôl iddyn nhw fethu â chymhwyso yn awtomatig.
Dywedodd Rhian Wilkinson wedi'r gêm bod y chwaraewyr wedi dangos eu bod nhw ddigon da i allu cymhwyso.
"Ar ein dydd, pam lai? Mae'n rhaid i fi feddwl felna. Pam arall fydden ni yn gwneud hyn?
"Fel y gwelwch chi mae ganddom ni chwaraewyr penigamp y byddai unrhyw wlad yn falch o gael ar y cae.
"Dan ni jest angen gweithio allan sut maen nhw yn chwarae gyda'i gilydd, sut maen nhw yn asio gyda'i gilydd a hefyd sut ydyn ni yn defnyddio ein chwaraewyr sydd yn gorffen symudiadau, y rhai sydd yn gallu dod ar y cae i ennill neu dal ymlaen. Mae hynny yn bwysig, bod gyda ni garfan a dim jest 11 o chwaraewyr."
Am fod Cymru wedi gorffen ar frig y grŵp mae Rhian Wilkinson yn gwybod y bydd y tîm cenedlaethol yn wynebu tîm sydd wedi dod yn ail neu yn drydydd mewn grŵp arall sy'n Nghynghrair B.
Fe fydd yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn cychwyn ym mis Hydref.
Yn ôl Wilkinson fe all y chwaraewyr rhyngwladol fwynhau hoe am rai misoedd gan wybod eu bod nhw wedi "rheoli eu tynged eu hunain."
"Yr uchelgais, ac roeddwn i'n eithaf agored am hyn, oedd ennill y grŵp a pheidio cael ein trechu, a dyna ydyn ni wedi gwneud. Dyw hi ddim wedi bod yn hawdd ond mae wedi gorffen gyda pherfformiad sydd, yn fy marn i, yn un o'n goreuon, felly rydyn ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu," meddai.
