Menyw a dau fachgen mewn cyflwr difrifol wedi digwyddiad yng Nghwm Rhymni

ITV Cymru
HEDDLU GWENT

Mae menyw a dau fachgen mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi "digwyddiad difrifol" ger Bargoed yng Nghwm Rhymni. 

Cafodd y gwasanaethau brys yn cynnwys dau ambiwlans awyr eu galw wedi adroddiadau fod pryderon am les tri o bobol yn ardal Cilfach fore Sul. 

Cafodd dynes 36 oed a dau fachgen naw ac 16 oed eu cludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad, a ddigwyddodd ger Stryd Margaret toc cyn 11:00, yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Gwent

Dywedodd llefarydd ar ran Ambiwlans Awyr Cymru: "Gallwn gadanrhau fod hofrenyddion Ambiwlans Awyr Cymru wedi eu hanfon i ddigwyddiad yn y rhanbarth ddydd Sul   

"Cafodd ein criwiau o Gaerdydd a Dafen eu hanfon tua 11:00 a chyrhaeddodd y criw cyntaf y safle am 11:20. Daeth ein dyletswyddau i ben am 14:03."

Yn ôl y llu, mae eu hymholiadau'n parhau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.