Marwolaethau yn yr Almaen wedi i gar yrru tuag at dorf yn Leipzig
Mae dau o bobl wedi marw a nifer wedi eu hanafu ar ôl i gar yrru tuag at dorf yn ninas Leipzig yn nwyrain yr Almaen, brynhawn Llun.
Cafodd y gyrrwr ei arestio yn ddiweddarach.
Yn ôl pennaeth Gwasanaeth Tân Leipzig, Axel Schuh, cafodd 22 o bobl eu hanafu, dau yn ddifrifol.
Mae tua 40 o ddiffoddwyr tân yno yn ogystal â degau o barafeddygon.
Cadarnhaodd yr heddlu fod car wedi taro nifer o bobl yn ardal Grimmaische Straße cyn i'r gyrrwr adael y safle.
Mae'r ardal dan sylw yn arwain at ganolfan siopa Leipzig.
Llun: Reuters
