Marwolaeth Gorseinon: Cyhuddo dyn 18 oed o lofruddiaeth ac enwi’r dyn a fu farw

Digwyddiad Gorseinon

Mae dyn 18 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 18 oed arall yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a beic oddi ar y ffordd yng Ngorseinon.

Mae Tyler Ford, o Dreforys, wedi’i gyhuddo o lofruddio Ceiran Evans a hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio ail ddioddefwr.

Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe ddydd Llun, 13 Gorffennaf.

Cafodd yr heddlu eu galw i Heol Pen Cae Crwn tua 13.00 ddydd Iau, 9 Gorffennaf, yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng car a beic oddi ar y ffordd.

Bu farw dyn 18 oed yn dilyn y gwrthdrawiad ac mae dyn 19 oed yn parhau yn yr ysbyty.

Er nad yw’r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn a fu farw fel Ceiran Evans, 18 oed, o Orseinon.

Mae ei deulu yn cael eu cefnogi a’u diweddaru gan swyddogion cyswllt teulu sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol.

Roedd pum dyn wedi cael eu harestio wrth i’r heddlu lansio ymchwiliad llofruddiaeth yn dilyn y digwyddiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.