'Mae'n hanfodol bwysig': Y Llywodraeth newydd am edrych eto ar ddysgu hanes Cymru mewn ysgolion
'Mae'n hanfodol bwysig': Y Llywodraeth newydd am edrych eto ar ddysgu hanes Cymru mewn ysgolion
Bydd Llywodraeth newydd Cymru yn cynnal adolygiad o'r cwricwlwm i wneud dysgu hanes Cymru mewn ysgolion yn "fwy penodol", yn ôl y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg.
Wrth siarad ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Môn, dywedodd Anna Brychan wrth Newyddion S4C bod dysgu hanes Cymru yn "greiddiol" i ddyfodol y wlad.
Mae’n ofynnol i ysgolion ddysgu hanes Cymru ers 2022, yn dilyn cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yng Nghymru.
Yn wrthblaid, galwodd Plaid Cymru am wneud hanes Cymru yn ran gorfodol o'r cwricwlwm newydd.
Fe wnaethon nhw bleidleisio yn erbyn y bil cwricwlwm newydd yn 2021, gan ddweud nad oedd yn rhoi unrhyw sicrwydd y byddai bob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddysgu am hanes eu gwlad.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, cafodd y cynnig ei gryfhau yn dilyn y cytundeb cydweithio rhwng y ddwy blaid.
Ond yn ôl Ms Brychan, bydd Llywodraeth newydd Cymru yn adeiladu ar y gwaith drwy gynnal adolygiad o'r cwricwlwm.
"Fi'n credu bydd cwricwlwm i Gymru yn dilyn yr adolygiad yma yn fwy penodol mewn sawl maes," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dwi hefyd yn credu bod hanes Cymru a deall pwy i ni a deall ein cyfraniad ni adeiladu ar hwnna yn hanfodol bwysig i bobl ble bynnag maen nhw'n byw.
"Mae hanes nhw yn greiddiol i pwy i nhw a shwt i ni wedyn yn adeiladu Cymru ar gyfer y dyfodol.
"Felly mae fe yn hanfodol bwysig ac yn greiddiol i sut i ni'n edrych ar ein system addysg ni."
'Ystyried hanes Cymru yn eang'
Dywedodd Ms Brychan y bydd yr adolygiad o'r cwricwlwm yn edrych ar ba rannau o hanes Cymru ddylai gael eu dysgu.
"Mae ‘na bethau sydd yn allweddol yn hanes Cymru a sydd wedi newid ein cymdeithas ni yn sylweddol fel y Chwyldro Diwydiannol," meddai.
"Ond dwi yn credu hefyd bod be' sydd yn digwydd yn lleol a hanes lleol hefyd yn bwysig iawn i bobl sydd moyn dweud eu stori eu hunain.
"Felly fi'n credu bydd 'na ryw gydbwysedd ac rwy'n edrych ymlaen at drafodaeth ynglŷn â hynny fel rhan o adolygu'r cwricwlwm."
Yn ôl Ms Brychan, mae angen ystyried hanes Cymru yn y "ffordd mwyaf eang posib".
"Mae fe'n dod nôl i'r pwynt creiddiol pwy i ni, ac ar ba hanes ry'n ni'n adeiladu a sut i ni'n tynnu ar hwnna i adeiladu ar gyfer y dyfodol," meddai.
"Ac ar gyfer gwneud hynny yn effeithiol, mae ishe tynnu ar y ffynonellau y wybodaeth, ein cyfraniad ni ym mhob maes - boed hynny er drwg neu er da."
'Creadigol'
Fe aeth Ms Brychan ymlaen i ddweud bod gwybodaeth athrawon o hanes Cymru yn "amrywio'n fawr" ar hyn o bryd.
"Falle bod o'n or-ddibynnol ar ddiddordeb a sgiliau athrawon unigol a bydd angen edrych ar hwnna," meddai.
"Ond dwi yn credu bod ‘na ysgolion, athrawon ymhob rhan o Gymru sydd eisoes wedi cael a mynd am y cyfle mae cwricwlwm i Gymru eisoes wedi ei roi iddyn nhw i wneud pethau creadigol a meddylgar iawn.
"Felly mae tynnu ar hwnna yn mynd i fod yn bwysig i ni fi'n credu."
Yn 2021, daeth adroddiad gan gorff arolygu Estyn i'r casgliad fod gan fwyafrif disgyblion Cymru wybodaeth gyfyngedig am eu hardaloedd lleol, ac roeddent yn ei chael hi'n anodd cysylltu hanes Cymru â digwyddiadau byd-eang.
Fe alwodd am gwricwlwm mwy strategol a chynhwysol.