'Mae gen i gannoedd o atgofion': Oriel luniau Cymru oddi cartref y 90au

Cefnogwyr Cymru yn Belgrade, Serbia yn 2003

"Roeddwn i wedi penderfynu mynd i bob gêm gyda fy nghamera, a nawr mae gen i gannoedd o atgofion."

Yn 1989, fe benderfynodd Andrew Shanahan o Gaerdydd gymryd camera i wylio Cymru yn chwarae pêl-droed yn erbyn Gorllewin yr Almaen.

Roedd wedi bod yn tynnu cannoedd o luniau yn ystod gemau Caerdydd am flynyddoedd cyn hynny, ond fe benderfynodd gadw cofnod o gemau oddi cartref Cymru drwy lens camera hefyd.

Dywedodd wrth Newyddion S4C fod ganddo filoedd o luniau i gyd, a'i fod wedi mynd i dros 100 o gemau Cymru oddi cartref.

Dyma rai o'i luniau gorau o’r 1990au.

Image
Cefnogwyr Cymru yn Dusseldorf yn 1995. Roedd hi'n noson hanesyddol i Gymru wrth iddyn nhw sicrhau gêm gyfartal. Llun: Andrew Shanahan
Cefnogwyr Cymru yn Dusseldorf yn 1995. Roedd hi'n noson hanesyddol i Gymru wrth iddyn nhw sicrhau gêm gyfartal (Llun: Andrew Shanahan)
Image
Ar y fainc: Rhai cefnogwyr yn y stadiwm cyn i Gymru herio Belarws yn 1999. Llun: Andrew Shanahan
Ar y fainc: Rhai cefnogwyr yn y stadiwm cyn i Gymru herio Belarws yn 1999 (Llun: Andrew Shanahan)
Image
Gêm gyntaf Andrew Shanahan yn erbyn Gorllewin yr Almaen yn 1989. Llun: Andrew Shanahan
Gêm gyntaf oddi cartref Andrew Shanahan yng Ngorllewin yr Almaen yn 1989 (Llun: Andrew Shanahan)

Yn ddiweddar fe benderfynodd Andrew rannu rhai o'r lluniau mewn grwpiau Facebook i gefnogwyr Cymru.

"Yn amlwg mae'r lluniau yma wedi bod gyda fi am ddegawdau, ond dim ond ers mis Tachwedd rydw i wedi bod ar Facebook," meddai.

"Felly roeddwn i wedi penderfynu eu rhannu nhw; mae gen i lawer mwy i ddod hefyd.

"Gorllewin yr Almaen oedd y trip cyntaf i mi, rwy’n siŵr o fod wedi gwneud dros 100 ond dwi erioed wedi cyfrif."

Image
Rhai o gefnogwyr Cymru o'r brifddinas yn Riga, Latfia yn 2004
Rhai o gefnogwyr Cymru o'r brifddinas, yn Riga, Latfia yn 2004 (Llun: Andrew Shanahan)
Image
Criw o Gaernarfon ar eu ffordd i Lwcsembwrg. Llun: Andrew Shanahan
Criw o Gaernarfon ar eu ffordd i Lwcsembwrg (Llun: Andrew Shanahan)
Image
Cerdded trwy Minsk yn 1999. Llun: Andrew Shanahan
Cerdded trwy Minsk yn 1999 (Llun: Andrew Shanahan)

Dywedodd Andrew Shanahan ei fod heb swydd ar un adeg, ond fe benderfynodd deithio i wylio Cymru yn Nuremberg yn 1991.

Fe deithiodd heb unrhyw ddillad ychwanegol, gyda brwsh dannedd a'i gamera yn unig.

"Doedd dim swydd gen i ar y pryd, felly yr unig bethau roeddwn i wedi teithio gyda nhw oedd brwsh dannedd a chamera.

"Doedd dim dillad ychwanegol na dim gyda ni, ac fe gysgodd ein criw ni yn yr orsaf drenau yno."

Image
Cannoedd yn San Jose yn 2003. America oedd yr enillwyr o 2-0. Llun: Andrew Shanahan
Cannoedd yn San Jose yn 2003. America oedd yr enillwyr o 2-0 (Llun: Andrew Shanahan)
Image
Trip arall i'r Eidal, y tro yma yn Bologna yn 1999. Llun: Andrew Shanahan
Trip arall i'r Eidal, y tro yma yn Bologna yn 1999. (Llun: Andrew Shanahan)
Image
Cefnogwyr yn Rwmania yn 1992. Bydd Cymru'r wynebu Rwmania ar 5 Mehefin yn Bucharest. Llun: Andrew Shanahan
Cefnogwyr yn Rwmania yn 1992. Bydd Cymru'n wynebu Rwmania ar 5 Mehefin yn Bucharest. (Llun: Andrew Shanahan)
Image
Karaoke ar y ffordd i Gorllewin yr Almaen yn 1989. Llun: Andrew Shanahan
Karaoke ar y ffordd i Orllewin yr Almaen yn 1989 (Llun: Andrew Shanahan)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.