Mab dyn 102 oed yn honni iddo gael ei ‘wthio oddi ar lwyfan’ mewn tafarn

Phillip Ormerod

Mae mab dyn 102 oed a fu farw ddyddiau ar ôl digwyddiad mewn tafarn yng Nghwmbrân wedi dweud bod ei dad wedi cael ei wthio oddi ar lwyfan ar ôl cwyno am sŵn y gerddoriaeth.

Bu farw Phillip Ormerod, oedd yn hen-dad-cu o Gwmbrân ac yn byw gyda dementia, yn yr ysbyty yr wythnos hon yn dilyn digwyddiad yn nhafarn y Crow’s Nest yn y dref ar 1 Awst.

Dywedodd ei fab, Robert Ormerod, wrth asiantaeth newyddion PA ei fod am weld “cyfiawnder” i’w dad.

Yn ôl Robert, roedd ei dad wedi mynd i’r dafarn am ddiod y noson honno ac wedi mynd ar lwyfan yn y lleoliad i ofyn i’r gerddoriaeth gael ei throi i lawr.

“Fe ofynnodd iddyn nhw droi’r gerddoriaeth i lawr,” meddai.

Mae Robert yn honni bod ei dad wedi troi i ddod oddi ar y llwyfan pan gafodd ei wthio, gan dorri ei glun.

“Dyna’r rhan fwyaf trist. Doedd o ddim am fyw am byth, ond dyw hi ddim yn ffordd braf o fynd, yn amlwg mewn poen,” meddai.

“Rydyn ni eisiau gweld cyfiawnder, wrth gwrs.

“Mae’n rhaid eu bod nhw’n gwybod ei fod yn hen ddyn. Mae’n gwneud i chi feddwl beth sy’n digwydd i’r byd.

“Byddai wedi bod yn braf petai wedi mynd yn dawel yn ei gwsg. Roedd yn yr ysbyty, yn dioddef, am wythnos a hanner. Dyw hynny ddim yn braf.”

'Cymeriad cyfarwydd'

Roedd Mr Ormerod yn hen-dad-cu ac wedi gweithio yn y byd dylunio cyn ymddeol.

Parhaodd i fyw yn Llanyrafon wedi marwolaeth ei wraig 40 mlynedd yn ôl, gyda’i ddau fab yn ymweld ag ef yn rheolaidd.

Dywedodd Robert fod ei dad wedi cael diagnosis o ddementia ychydig flynyddoedd yn ôl, a bod ei olwg hefyd wedi dirywio.

Roedd yn ymweld â’r dafarn ddwy neu dair gwaith yr wythnos ac, yn ôl ei fab, wedi dod yn gymeriad cyfarwydd yno, gyda rhai o’r bobl ifanc yn prynu cwrw iddo.

“Mae’n debyg iddo ddod yn dipyn o gymeriad yn y dafarn,” meddai Robert.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r Crow’s Nest am tua 22:25 ar 1 Awst yn dilyn adroddiad am ymosodiad.

Cafodd dyn 56 oed o Lanelli ei arestio ar amheuaeth o ymosodiad o dan adran 20 o Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861.

Mae’n parhau dan ymchwiliad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.