M4: Cau cyffyrdd Casnewydd yn creu ‘anhrefn llwyr’ medd cynghorwyr

Yr M4 yng Nghasnewydd

Byddai cau cyffyrdd yr M4 yng Nghasnewydd yn arwain at “anhrefn llwyr”, yn ôl cynghorwyr y ddinas.

Mae Llywodraeth Cymru, o dan arweiniad Plaid Cymru, yn ystyried datrysiadau posib er mwyn lleddfu’r tagfeydd ar yr M4 yng Nghasnewydd.

Daw wedi penderfyniad y llywodraeth Lafur flaenorol i ganslo ffordd liniaru’r M4 yn 2019.

Ymhlith y cynigion mae cau cyffordd 27 yn llwyr a chau cyffyrdd 25 a 26 yn rhannol. 

Mae cynghorwyr Casnewydd wedi lleisio eu gwrthwynebiad unwaith eto, gan ddweud y byddai hynny’n gwneud pethau’n waeth i yrwyr yn y ddinas.

Dywedodd y Cynghorydd Rhian Howells, yr aelod cabinet sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, fod adroddiad y llywodraeth ei hun yn dweud y byddai cau’r cyffyrdd yn ei gwneud hi’n anoddach cyrraedd Casnewydd ac yn cynyddu’r traffig ar ffyrdd y ddinas.

Mae dirprwy weinidog trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Mark Hooper, wedi cydnabod o’r blaen y gallai’r cynigion fod ag  “oblygiadau” i ffyrdd eraill. 

Ond dywedodd fod cau cyffyrdd yn cynnig “rhai o’r cyfleoedd cyflymaf i wella llif y traffig ar yr M4 a gallu’r draffordd i ymdopi pan fydd tarfu”.

Mae bron i 14,000 o bobl wedi llofnodi deiseb yn erbyn y cynigion. Mewn cyfarfod o Gyngor Dinas Casnewydd ddydd Mawrth mynegodd aelodau eu gwrthwynebiad unwaith eto i gau unrhyw gyffyrdd.

Dywedodd y Cynghorydd Howells y byddai’r cynigion yn golygu oedi hirach wrth gyffyrdd eraill. Fe allai rhai gyrwyr hefyd ddefnyddio strydoedd preswyl fel “llwybrau byr” i osgoi’r tagfeydd.

Dywedodd hefyd y “gallai cau’r cyffyrdd gael effaith groes i’r bwriad” drwy wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn llai dibynadwy ac yn llai deniadol i yrwyr. Dylai’r llywodraeth “ganolbwyntio” ar ddatblygu ffordd liniaru yn lle hynny, meddai.

‘Melltith fy mywyd’

Dywedodd arweinydd yr wrthblaid, y Cynghorydd Matthew Evans, fod ei grŵp Ceidwadol wedi galw’n “gyson” am ffordd liniaru. Cyhuddodd Lafur o fod yn “rhagrithiol” ynglŷn â’r tagfeydd ar yr M4, gan fod y blaid wedi cefnogi cynlluniau eraill yn lle’r ffordd liniaru yn y gorffennol.

“Pe baech chi wedi gwneud yr hyn roeddech chi wedi dweud y byddech chi’n ei wneud” yn 2019, meddai wrth aelodau Llafur, “fydden ni ddim yn cael y ddadl hon heddiw”.

Dywedodd y Cynghorydd Evans y byddai’n cefnogi’r cynnig yn erbyn cau’r cyffyrdd. Rhybuddiodd y “gallai pobl golli eu bywydau” pe bai’r cyffyrdd yn cau.

Roedd Allan Morris, sy’n cynrychioli Llyswyry, yn cytuno. Dywedodd wrth y cyngor y gallai gymryd mwy o amser i’r gwasanaethau brys ymateb i alwadau pe bai’r cyffyrdd yn cau.

Dywedodd y Cynghorydd Kevin Whitehead, sy’n cynrychioli Betws ac yn gweithio yn Lloegr, ei fod wedi bod yn sownd mewn traffig ar yr M4 am bedair awr y diwrnod hwnnw. Disgrifiodd y draffordd fel “melltith fy mywyd”.

Dywedodd y Cynghorydd Pat Drewett y byddai cynllun y llywodraeth fel “cau’r prif ddrysau ym Mharc Rodney ar ddiwedd y gêm ac anfon pawb allan drwy dwnnel y chwaraewyr. Mae’n anochel y bydd y ciwiau’n mynd yn hirach ym mhobman arall”.

Ymateb

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni’n cydnabod bod cyffyrdd traffyrdd yn ffyrdd pwysig i gymunedau a busnesau gyrraedd y draffordd a’i gadael, felly byddai angen asesu effaith unrhyw gynigion ar yr ardal leol yn ofalus.

“Roedd adroddiad diweddar Arup i Lywodraeth Cymru yn ystyried sawl opsiwn, gan gynnwys newid sut mae’r draffordd yn gweithredu, ond does dim penderfyniad wedi’i wneud ynghylch rhoi’r un o’r opsiynau ar waith.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i drafod y cynigion yn drylwyr gyda Chyngor Dinas Casnewydd, cymunedau lleol ac Aelodau [o’r Senedd] cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am gamau penodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.