Llywodraeth y DU i gyhoeddi sancsiynau yn erbyn masnach Israelaidd ar y Lan Orllewinol

Israel

Mae disgwyl i Ed Miliband gyhoeddi sancsiynau yn erbyn ymsefydlwyr Israelaidd ar y Lan Orllewinol yn ddiweddarach, tir sydd yn diriogaeth Balesteinaidd.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Tramor yn amlinellu "dechrau newydd" i berthynas Prydain ag Israel mewn datganiad yn Nhŷ'r Cyffredin.

Mae gweinidogion wedi awgrymu y gallai nwyddau sy'n dod o leoliadau anghyfreithlon yn y Lan Orllewinol fod yn destun cyfyngiadau masnach fel rhan o'r newidiadau.

Fe wnaeth y Prif Weinidog Andy Burnham drafod y Dwyrain Canol gydag Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, mewn galwad ffôn ddydd Llun.

Gallai'r cyhoeddiad gynyddu'r tensiynau rhwng Llundain a Washington, sef cynghreiriad agosaf Israel.

Dywedodd datganiad gan Downing Street fod Mr Burnham wedi amlinellu "ymrwymiad y DU i weithio tuag at heddwch a diogelwch yn y rhanbarth", gan bwysleisio pwysigrwydd sefydlu dwy wladwriaeth, ond ni wnaeth sôn am ymateb yr Arlywydd i'w safbwynt.

Dywedodd The Times y byddai gweinyddiaeth Donald Trump yn gwneud datganiad yn beirniadu'r cam yma.

Mae Israel eisoes wedi bygwth dial os bydd y DU yn gosod sancsiynau yn erbyn dinasyddion eu gwlad ar y Lan Orllewinol, gyda’r Gweinidog Tramor Gideon Saar yn rhybuddio: “Os bydd Prydain yn gweithredu yn erbyn Israel, bydd Israel yn gweithredu yn erbyn Prydain.”

Galwodd Itamar Ben-Gvir, Gweinidog Diogelwch Cyhoeddus Israel ar Brif Weinidog y wlad, Benjamin Netanyahu, i gydnabod yn gyhoeddus Ynysoedd y Falkland fel “tiriogaeth yr Ariannin sydd wedi ei meddiannu, y mae’r Prydeinwyr wedi ei dwyn yn dreisgar oddi ar bobl yr Ariannin”.

 

 
 
 
 
 
 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.