Llythrennedd ac ansawdd dysgu yn dal rhai disgyblion yn ôl medd Estyn

Arholiad TGAU

Mae llythrennedd ac ansawdd dysgu mewn rhai ysgolion yn golygu bod rhai disgyblion yn cael eu dal yn ôl, medd adroddiad blynyddol Estyn.

Yn ôl y ddogfen mae hynny i'w weld fwy mewn ysgolion uwchradd ac mae arweinyddiaeth hefyd yn broblem mewn rhai sefydliadau addysg.

Does dim digon o gysondeb o safbwynt ansawdd dysgu medd yr adroddiad gyda'r "disgwyliadau'n rhy isel".

Mae Estyn hefyd yn dweud bod angen canolbwyntio ar lythrennedd "mwy miniog a chyson" neu na fydd disgyblion yn cyrraedd eu potensial.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried casgliadau'r adroddiad a bod Estyn yn cydnabod fod cryfderau a gwendidau.

Wrth sôn am arweinyddiaeth roedd yr adroddiad yn dweud bod hunanwerthuso ar adegau yn "arwynebol" a ddim yn "canolbwyntio'n ddigonol ar gynnydd dysgwyr".

Ymhlith yr heriau arall yn y byd addysg medd yr adroddiad mae problemau o ran recriwtio a gallu anghyfartal i fanteisio ar ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel i athrawon.

Ond roedd y corff yn dweud bod yna enghreifftiau o arfer gref mewn sefydliadau addysg. 

Fe wnaethon nhw ddefnyddio tystiolaeth arolygu o ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a gwasanaethau addysg ehangach yn ystod 2024–2025 er mwyn llunio'r adroddiad.

Ymhlith yr enghreifftiau da oedd agwedd pwrpasol a systematig tuag at ddarllen, diwylliant o ddysgu proffesiynol a rhai awdurdodau lleol yn datblygu darpariaeth arbenigol yn y Gymraeg yn effeithiol.

Dywedodd y Prif Arolygydd Owen Evans: “Mae adroddiad eleni yn sicr yn amlygu rhesymau i fod yn optimistaidd. Mae diwygiadau parhaus i’r cwricwlwm, y Rhaglen Gwella Ysgolion (RhGY) newydd, sefydlu Adnodd a Dysgu, a blwyddyn gyntaf Medr yn gwbl weithredol – yn cynnig cyfleoedd i gryfhau cydlynu ar draws y system.

“Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn o’r pwysau cynyddol ar ddarparwyr, gyda niferoedd cynyddol o ddysgwyr sy’n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol a’r galw cynyddol am ddarpariaeth arbenigol. 

Mae’r pryderon ynghylch lefelau llythrennedd ac ansawdd yr addysgu ledled Cymru yn parhau a, heb ffocws mwy craff a chynaledig yn y meysydd hyn, bydd gormod o ddysgwyr yn parhau i fethu cyrraedd eu potensial.”

Roedd yr adroddiad eleni yn edrych ar ddarpariaethau trochi yn y Gymraeg am y tro cyntaf. Mae'r ddogfen yn dweud bod cynllunio mwy uchelgeisiol yn digwydd gan gynghorau ar gyfer darpariaeth trochi. Er hynny mae yna heriau yn parhau i sicrhau datblygiad cynyddol siarad Cymraeg mewn sefydliadau addysg a hyfforddiant cyfrwng Saesneg.

Ychwanegodd Owen Evans bod "pwysau sylweddol" ar ddarparwyr addysg a bod yna "ymroddiad ac ymrwymiad" gan staff a disgyblion. 

"Rwy’n falch o gynnwys yr arloesedd a’r arfer gref a welom ledled Cymru ac rwy’n optimistaidd y gallwn adeiladu ar y sylfeini cryf hyn; fodd bynnag, mae angen camau gweithredu pendant i fynd i’r afael â gwendidau systemig. Byddwn yn parhau i chwarae ein rhan trwy dynnu sylw at arfer orau, herio tanberfformio a chefnogi gwelliant – dros ddysgwyr, dros Gymru."

Buddsoddi £13.2 miliwn

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae adroddiad Estyn yn rhoi barn bwysig, annibynnol ar ein system addysg a byddwn yn ystyried y canfyddiadau’n ofalus. Mae Estyn yn glir bod cryfderau sylweddol i’w dathlu ond mae heriau hefyd.

"Rydym yn buddsoddi £13.2 miliwn dros dair blynedd mewn dysgu proffesiynol cenedlaethol ar gyfer llythrennedd ac wedi dyrannu gwerth dros £6.6 miliwn ar brosiectau mathemateg a rhifedd newydd sy’n darparu cefnogaeth ac arbenigedd mwy cyson ar gyfer addysgu mathemateg ledled Cymru. 

"Rydym hefyd yn darparu £2.5 miliwn ychwanegol flwyddyn ar ôl blwyddyn i awdurdodau lleol i wella eu gallu i gefnogi ysgolion ar lythrennedd a rhifedd."

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig dros Addysg, Natasha Asghar AS, bod "gormod o ddisgyblion yn cael eu siomi gan safonau llythrennedd gwan ac ansawdd addysgu anghyson".

"Ar ôl 27 mlynedd o Lafur a Phlaid Cymru yn gyfrifol am addysg, mae’r problemau hyn yn parhau i fod yn ddwfn iawn, gydag arweinyddiaeth wael a safonau anghyson yn dal dysgwyr yn ôl. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn glir bod rhaid i safonau ddod yn gyntaf," meddai.

"Dyna pam mai ni yw’r unig blaid sydd wedi ymrwymo i wahardd ciwio a dilyn y dystiolaeth trwy gyflwyno ffoneg systematig, i godi lefelau llythrennedd a rhoi cyfle i bob plentyn yng Nghymru lwyddo a rhagori mewn bywyd."

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK Cymru: "Mae Llafur wedi bod yn gyfrifol am anllythrennedd eang ymhlith ein plant yng Nghymru.

"Mae ein system addysg yn galw am Reform UK."

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Blaid Cymru, Y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.