Llys yn gwrthod cais yr Ariannin i atal drilio am olew oddi ar Ynysoedd y Falklands

Y Falklands / Barnwr Llys

Mae tribiwnlys rhyngwladol wedi gwrthod cais yr Ariannin i atal drilio am olew oddi ar arfordir Ynysoedd y Falklands.

Roedd y llywodraeth yn Buenos Aires wedi galw ar Dribiwnlys Rhyngwladol Cyfraith y Môr (ITLOS) i orchymyn atal prosiect Sea Lion fel rhan o’i hawliad i sofraniaeth dros Ynysoedd y Falklands.

Mae'r ynysoedd, sydd wedi ei eu lleoli yn ne Cefnfor yr Iwerydd, yn un o diriogaethau tramor y Deyrnas Unedig, er bod yr Ariannin yn eu hawlio. Bu rhyfel gwaedlyd am reolaeth o'r ynysoedd ym 1982.

Mewn dyfarniad gafodd ei ddarllen gan lywydd y tribiwnlys, Maurice Kamga, ddydd Sadwrn, gwrthododd y llys ddadleuon yr Ariannin dros atal y prosiect drilio, gan ddweud hefyd gan nad oes ganddo’r pŵer i ddyfarnu ar faterion yn ymwneud â sofraniaeth.

Dywedodd Mr Kamga fod 18 o farnwyr wedi pleidleisio o blaid gwrthod honiadau’r Ariannin, tra bod tri wedi pleidleisio o blaid eu derbyn.

‘Trychinebus’

Mewn gwrandawiad yn gynharach y mis hwn, dywedodd yr Ariannin na ddylen nhw ganiatáu drilio nes bod y dadlau ynghylch sofraniaeth yr ynysoedd wedi’i ddatrys, a gofynnodd i’r tribiwnlys gyhoeddi gwaharddiad dros dro hyd nes gallu cynnal gwrandawiad cyflafareddu llawn.

Ond dywedodd Twrnai Cyffredinol y DU, Ellie Reeves, y byddai gorchymyn o’r fath yn golygu “canlyniadau trychinebus” i drigolion Ynysoedd y Falklands ac yn eu hatal rhag datblygu eu hadnoddau naturiol “fel y mae ganddyn nhw hawl i’w wneud yn unol â’u hawl sylfaenol i wneud penderfyniadau”.

Mae prosiect Sea Lion yn fenter ar y cyd rhwng cwmnïau o Brydain ac Israel yn ne Cefnfor yr Iwerydd, ac amcangyfrifir bod 1.7 biliwn o gasgenni o olew yn y maes olew.

Mae Arlywydd yr Ariannin, Javier Milei, wedi disgrifio gweithgareddau’r cwmnïau fel rhai anghyfreithlon, ac wedi cyflwyno sancsiynau economaidd yn erbyn unigolion a chwmnïau sy’n ymwneud â chwilio am olew o amgylch yr ynysoedd.

Image
Rhyfel y Falklands - HMS Broadsword a Hermes, 1982
Dau o longau'r llynges Brydeinig, HMS Broadsword a Hermes, yn ystod Rhyfel y Falklands ym 1982 (Llun: Y Llynges Frenhinol/Wikimedia Commons)

Yr hanes

Mae’r Ariannin wedi hawlio sofraniaeth dros Ynysoedd y Falklands, y mae’n eu galw’n Las Malvinas, ers amser maith.

Fe wnaeth yr Ariannin oresgyn yr ynysoedd yn filwrol ym 1982, gan sbarduno rhyfel pan gafodd llu o Brydain ei anfon i adennill rheolaeth dros y diriogaeth yn llwyddiannus.

Bu farw 255 o filwyr Prydeinig, 649 o filwyr o'r Ariannin a thri pherson o'r ynysoedd yn y rhyfel 10 wythnos o hyd.

Mae trigolion Ynysoedd y Falklands, sydd â phoblogaeth o 3,700, wedi mynegi eu dymuniad i barhau’n Brydeinig dro ar ôl tro, gyda 99.8% yn pleidleisio mewn refferendwm yn 2013 o blaid parhau’n Diriogaeth Dramor Brydeinig.

‘Penderfynu ar ddyfodol eu hunain’

Yn dilyn y penderfyniad, dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor, Ed Miliband, a’r Twrnai Cyffredinol, Ellie Reeves, fod y canlyniad yn “cadarnhau cadernid amddiffyniad a strategaeth gyfreithiol y DU”.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedon nhw: “Ceisiodd yr Ariannin atal trigolion Ynysoedd y Falklands rhag gwneud eu penderfyniadau sofran eu hunain, a methodd yn ei hymgais.

“Nid oes gan y DU unrhyw amheuaeth ynghylch ein sofraniaeth dros Ynysoedd y Falklands, ein sofraniaeth a’n hawliau sofran dros yr ardaloedd morol cyfagos, a hawl trigolion yr ynysoedd i wneud penderfyniad eu hunain.

“Rydym bellach yn galw ar yr Ariannin i barchu hawl trigolion Ynysoedd y Falklands i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain, ac yn annog yr Ariannin i roi diwedd ar ei phwysau economaidd ehangach ar yr ynysoedd,” meddai.

Mae disgwyl am wrandawiad pellach ar gais yr Ariannin i atal drilio am olew oddi ar arfordir Ynysoedd y Falklands gael ei gynnal yn ddiweddarach. Dywedodd Mr Kamga na fyddai penderfyniad dydd Sadwrn yn rhagfarnu canlyniad yr achos.

Prif lun: ITLOS/PA, The joy of all things/CC BY-SA 4.0/Wikimedia Commons

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.