Lluniau: Super Furry Animals yn swyno’r dorf yn Eisteddfod y Garreg Las
Fe wnaeth y Super Furry Animals berfformio ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol nos Sadwrn a hynny am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.
Dywedodd yr Eisteddfod fod “miloedd lawer o gefnogwyr” wedi mwynhau’r gig gan “un o fandiau mwyaf dylanwadol Cymru”.
“Y gig yn yr Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las oedd perfformiad cyntaf y band yn gyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg a chafodd dderbyniad da gan gynulleidfa frwdfrydig a gwerthfawrogol,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod.
Dyma rai o luniau o'r noson:
Ers eu ffurfio ym 1993, mae'r grŵp wedi cyfuno roc seicedelig, arbrofi electronig a cherddoriaeth Gymraeg, gan helpu i ddod â sîn amgen Cymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol.
Ymhlith eu heiliadau mwyaf cofiadwy oedd ymddangosiad eu tanc porffor eiconig ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llandeilo ym 1996, sef stynt sydd wedi dod yn rhan o lên gwerin cerddoriaeth Cymru.
Am y tro cyntaf, fe wnaeth y band berfformio eu halbwm Mwng yn ei gyfanrwydd.
Mae'r albwm, pedwerydd y band a ryddhawyd yn 2000, yn cynnwys ffefrynnau fel Ymaelodi Â'r Ymylon, Y Teimlad, Sarn Halen ac Ysbeidiau Heulog.
Fe wnaeth yr albwm gyrraedd rhif 11 ar Siart Albymau'r Deyrnas Unedig — yr albwm Cymraeg cyntaf i gyrraedd yr 20 uchaf.
Arweiniodd hyn at sôn am Mwng yn Nhŷ'r Cyffredin gan Elfyn Llwyd, a ddisgrifiodd y record fel dathliad o "don newydd o hyder yn y genedl Gymreig".