Llanelli: Symud pobl o'u tai ar ôl i 'becyn amheus' gael ei ddarganfod

Long Row

Mae pobl wedi cael eu symud o'u tai yn Felinfoel, Llanelli yn dilyn adroddiadau fod "pecyn amheus" wedi cael ei ddarganfod.

Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod y digwyddiad yn stryd Long Row, a bod y pecyn wedi ei ddarganfod am 12:25 ddydd Sadwrn.

Cafodd yr heddlu ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu galw i'r lleoliad.

Mae Long Row a Adulam Row ar gau i draffig ar hyn o bryd ac mae pobl ar y ddwy stryd wedi cael cais i adael eu cartrefi "fel rhagofal tra bod y pecyn yn cael ei archwilio."

Llun: Google

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.