Llandudno: Disgwyl i'r dref fod heb brif gangen Swyddfa'r Post am chwe mis
Fe allai tref Llandudno fod heb brif swyddfa bost am chwe mis, yn ôl Swyddfa'r Post.
Mae trafodaethau'n cael eu cynnal gyda gweithredwr posib a landlord ynghylch swyddfa bost newydd i gymryd lle'r brif gangen gyfredol yn Llandudno, sydd i fod i gau ym mis Ionawr.
Mae Swyddfa'r Post wedi cadarnhau bydd y gangen tu mewn i siop TG Jones yn cau ddydd Sadwrn, 16 Ionawr, wedi penderfyniad y masnachwr i gau ei siop yn y dref.
Dywedodd Swyddfa'r Post bod y cyfle i redeg prif swyddfa bost y dref wedi cael ei hysbysebu a bod y sefydliad wedi clywed gan fasnachwyr sydd â diddordeb.
Ond gallai dod o hyd i leoliad a rhywun addas i redeg cangen gymryd tua chwe mis, sy'n golygu y gallai'r dref fod heb prif swyddfa bost am gyfnod.
'Cyn gynted â phosib'
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post: "Rydym yn cydnabod yn llwyr yr amodau masnachu heriol mae TG Jones a llawer o fasnachwyr y Stryd Fawr yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Cafodd cynllun ailstrwythuro TG Jones ei gymeradwyo gan yr Uchel Lys ar 1 Gorffennaf.
"Yn sgil hynny, bydd TG Jones yn cau ei siop yn Llandudno. Yn anffodus, mae disgwyl i Swyddfa'r Post Llandudno gau ar ddydd Sadwrn, 16 Ionawr.
"Mae'r rôl wedi cael ei hysbysebu ac rydym wedi clywed gan fasnachwyr sydd â diddordeb. Rydym eisiau agor cangen newydd yn ei lle cyn gynted â phosib, ond gallai hi gymryd tua chwe mis i ddod o hyd i weithredwr addas gyda safle addas. Byddwn yn rhannu mwy o newyddion am gangen newydd cyn gynted ag y gallwn ni."
Ychwanegodd y llefarydd bod cangen arall yn ardal Pen Morfa (West Shore) yn Llandudno a changen Drop + Collect ar gyfer parseli sydd wedi eu talu ymlaen llaw yng Nghanolfan Siopa Fictoria.
'Calonogol'
Dywedodd AS Bangor Conwy Môn, Janet Finch-Saunders, a'r cynghorydd lleol Mandy Hawkins eu bod wedi bod yn rhan o'r trafodaethau.
Dywedodd y Cynghorydd Hawkins ei bod yn bryderus am gau'r gangen ond yn teimlo'n calonogol wedi trafodaethau gyda gweithredwr posib.
"Dw i, wrth gwrs, yn pryderu, ond mae'n galonogol bod trafodaethau positif yn digwydd gyda gweithredwr posib yn y dref," meddai.
"Wrth gwrs, bydd 'na gyfnod pan fydd Llandudno heb brif swyddfa bost. Mae llawer o bobl hŷn yn dibynnu ar allu cael mynediad at wasanaethau wyneb i wyneb, a llawer o fusnesau'n defnyddio'r swyddfa bost yn gyson.
"Ers i ni glywed bod y gangen yn cau, dw i wedi bod yn gwneud popeth yn fy ngallu i sicrhau ein bod yn cadw prif swyddfa bost yn Llandudno.
Dywedodd y cynghorydd ei bod wedi cael cyfarfod "positif" gyda Phrif Weithredwr Swyddfa'r Post.
"Wedi'r cyfarfod hwnnw, mae'n bositif iawn i wybod bod trafodaethau yn digwydd bellach gyda gweithredwr posib a landlord," meddai.
"Does dim wedi ei gadarnhau eto ac mae gwaith eto i'w wneud, ond mae pethau'n symud yn y cyfeiriad cywir.
"Â minnau wedi gweithio i Swyddfa'r Post fy hun, mae hwn yn achos sy'n agos iawn i'm calon. Dw i hefyd yn cydymdeimlo â'r staff sy'n wynebu colli eu swyddi pan fo'r gangen bresennol yn cau. Dw i'n gobeithio bydd unrhyw weithredwr newydd yn y dyfodol yn ystyried rhai aelodau o'r staff profiadol presennol gan y byddai eu gwybodaeth a'u profiad yn ased bod iawn i swyddfa bost newydd."
Ychwanegodd: "Mae'n bwysig iawn i mi bod y cyfnod heb brif swyddfa bost mor fyr â phosib i leihau'r effaith ar drigolion a busnesau."
'Angen cangen yn y canol'
Dywedodd Janet Finch-Saunders AS: "Yn gyntaf, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad â'r staff presennol yn Swyddfa'r Post TG Jones. Maen nhw'n dîm gwych sy'n gweithio'n galed.
"Wedi'r llythyr 'sgrifennais i at Brif Weithredwr Swyddfa'r Post a'r cyfarfod gyda'u Rheolwr Materion Allanol, roeddwn wrth fy modd i glywed am y camau mae Swyddfa'r Post yn eu cymryd i adfer gwasanaethau yn Llandudno, gyda thrafodaethau am safle newydd posib yn digwydd yn barod."
Ychwanegodd: "Mae'n hanfodol bod unrhyw gangen newydd wedi ei lleoli yng nghanol Llandudno, ble gall trigolion a busnesau sy'n dibynnu ar y gwasanaeth yn barod barhau i gael mynediad ato. Rydyn ni angen cangen lawn sy'n gweithio'n iawn yng nghanol y dref.
"Byddaf yn parhau i alw ar, a gweithio gyda, Swyddfa'r Post i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei adleoli a'i adfer cyn gynted â phosib."
Prif lun: Nigel Swales, CC BY-SA 2.0, via Wikimedia Commons/Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol