Jess Fishlock i ddychwelyd os y bydd llwyddiant i Gymru
Mae Rhian Wilkinson wedi dweud y bydd Jess Fishlock yn dychwelyd fel hyfforddwr os bydd tîm pêl-droed merched Cymru yn cyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd.
Fe wnaeth Fishlock roi'r gorau i chwarae dros ei gwlad ym mis Hydref y llynedd.
Ond mae'n parhau i chwarae pêl-droed yn America gyda Seattle Reign.
Mae Cymru o bosib bedair gêm i ffwrdd o sicrhau lle yng Nghwpan y Byd. Os byddan nhw'n llwyddo, dyma fydd y tro cyntaf yn eu hanes iddyn nhw gyrraedd y gystadleuaeth.
Cyn hynny, fis nesaf, mae ganddyn nhw gêm oddi cartref yn erbyn Albania cyn wynebu'r wlad unwaith eto gartref yn Llanelli.
Dywedodd Wilkinson fod Fishlock wedi bod yn "chwaraewr hyfryd i ni ac yn arweinydd gwych i ni" pan oedd hi'n chwarae.
“Os byddwn ni’n llwyddo i guro Albania, bydd hi’n ymuno â ni fel hyfforddwr ar gyfer y rownd nesaf.”
Fe wnaeth Fishlock helpu carfan Cymru ym mis Mawrth, gan weithio fel cynorthwyydd technegol ar gyfer gêm gyntaf Cymru yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd, yn erbyn y Weriniaeth Tsiec.
Mae prif hyfforddwr Cymru hefyd wedi dweud y bydd Kayleigh Barton, cyn chwaraewr arall i Gymru, yn rhan o'i staff ar gyfer y gemau yn erbyn Albania.