O Instagram i Downing Street a Thŷ'r Arglwyddi: Taith ymgyrchydd iechyd mislif o Gaerdydd
Mae Molly Fenton, 24 oed o Gaerdydd, wedi bod yn gwirfoddoli ers iddi fod yn 16 oed.
Dechreuodd hi drwy greu tudalen Instagram ‘Love Your Period’ gyda'i ffrindiau, yn y gobaith o godi ymwybyddiaeth am iechyd mislif, ac i daclo’r stigma o amgylch y pwnc.
“Roeddwn i'n cael amser anodd gyda fy mislif. Roedd yn effeithio fy addysg, fy iechyd, fy ansawdd bywyd. Roeddwn i yn teimlo llawer o gywilydd ac embaras,” meddai.
"Ar ôl siarad gyda fy ffrindiau, fe wnes i sylwi fod lot o bobl yn cael problemau ond nad oedd neb yn siarad amdano. Dyna pryd nes i sylwi fod angen ar gyfer ymgyrch fel hon.”
Dros y blynyddoedd diwethaf mae tudalen Instagram Molly wedi tyfu, ac erbyn hyn mae ganddi dros 6,000 o ddilynwyr.
Yn 2023, roedd ‘Love Your Period’ yn rhan o gynllun Llywodraeth Cymru o'r enw Balch o'r Mislif, i geisio gwella’r addysg o amgylch mislif a dod â thlodi mislif i ben yng Nghymru.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fe fynd mor fawr â hyn, i’r llywodraeth weld beth oeddem ni yn gwneud ac i siarad â ni. Ond wrth i’r gymuned o’n hamgylch ni dyfu gwnaeth yr angen am y gwaith roeddwn i yn ei wneud, dyfu hefyd.”
'Gwerthfawr'
Mae Molly bellach wedi cael cyfle i gydweithio a chysylltu â sawl elusen ar draws y byd, siarad gerbron Tŷ’r Arglwyddi, a chael ei gwahodd i dderbyniad Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn Downing Street.
“Dwi mor lwcus fy mod wedi cael y profiadau gwych yma, a chael y cyfle i ddefnyddio fy llais, a fy mhrofiad i greu newid.
“Dwi ddim yn gallu mynd allan a phrynu llwythi o gynnyrch i bawb, ond dwi yn gallu cael sgyrsiau gyda phobl. Mae’r sgyrsiau yna yn cael effaith pili-pala ac yn gallu arwain at newid arwyddocaol.
“Dwi'n meddwl mai mynd allan a siarad â phobl ifanc a chlywed eu profiadau nhw, a dysgu oddi wrth ein gilydd, yw’r peth mwyaf gwerthfawr rydw i wedi gallu ei wneud yn ystod yr ymgyrch yma.”
Yn 2024, dechreuodd Gynllun Mislif Hapus, i ddarparu nwyddau mislif am ddim i bobl ar draws Cymru.
“Wrth wneud gwaith ar draws y DU gyda ‘Love your Period’, roeddwn ni yn aml yn teimlo fel fi oedd yr unig berson oedd yn siarad am yr angen yn Nghymru.
“Roeddwn ni wir ishe dod a'r gwaith oeddem ni yn ei wneud yn nôl a ffocysu ar Gymru. Gwneud yn siŵr fod rhywun yn sefyll i fyny dros ein cenedl ni yn y sgyrsiau yma.”
Mae Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhedeg ers 2018 er mwyn darparu cynnyrch mislif am ddim ar gael mewn mannau cyhoeddus ar draws Cymru.
Ond yn ôl Molly, dyw llawer o bobl ddim yn ymwybodol o’r hyn sydd ar gael iddyn nhw.
"Mae hwn yn rhan bwysig o’r swydd rydyn ni yn trio gwneud drwy Gynllun Mislif hapus yw sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’r help a’r ddarpariaeth sydd ar gael iddyn nhw,” ychwanegodd.
Ers dechrau’r cynllun mae Molly wedi gallu darparu dros 1,500 o becynnau mislif ar draws Gymru.
'Mae gen i lais'
Mae Molly wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith gwirfoddol gyda ‘Love Your Period’. Llynedd, daeth i’r brig yn un o wobrau gwirfoddolwyr Caerdydd.
“Roedd hi’n hyfryd i gael cydnabyddiaeth am y gwaith rydyn ni’n ei wneud, ac i ddangos be mae pobl ifanc yn gallu gwneud.
“Mae gwirfoddoli wedi profi i mi fy mod i yn gallu gwneud gwahaniaeth. Mae gen i lais."
Mae Wythnos Gwirfoddoli yn rhedeg o 1-7 Mehefin ac mae Molly am annog fwy o bobl ifanc i wirfoddoli.
“Yn aml mae pobl yn meddwl am wirfoddoli fel rhywbeth eithaf diflas, ond mae gymaint ffurf wahanol i wirfoddoli, jest angen ffeindio rhywbeth rydych chi a diddordeb ynddo.
“Mae hi’n gallu bod yn gyfnod eithaf ofnus, mae pethau erchyll yn digwydd yn y byd. Ond mae gwirfoddoli yn dod a gymaint o bositifrwydd. Mae fe yn rhywbeth rydych chi yn gallu ei wneud sydd yn mynd i helpu, yn mynd i wneud gwahaniaeth yn rhywle, i rywun.
“Mae gwirfoddoli yn gallu dangos i bobl ifanc eu bod nhw yn gallu bod yn rhan o rywbeth. Bod gwerth i’w lleisiau nhw.”