'Hwyliau da iawn yn Oslo' cyn i Norwy wynebu Lloegr yn rownd yr wyth olaf Cwpan y Byd

'Hwyliau da iawn yn Oslo' cyn i Norwy wynebu Lloegr yn rownd yr wyth olaf Cwpan y Byd

Mae Cymro sydd yn byw ym mhrifddinas Norwy yn dweud bod Oslo "mewn hwyliau da" cyn yr her o wynebu Lloegr yng Nghwpan y Byd nos Sadwrn.

Dywedodd Eirig Wyn Jones wrth Newyddion S4C fod y wlad yn "edrych ymlaen" at wynebu'r Saeson, gyda'r enillydd yn ennill lle yn rownd gynderfynol Cwpan y Byd.

Enillodd Lloegr 3-2 yn erbyn Mecsico yn rownd yr 16 olaf, gyda goliau gan Jude Bellingham a Harry Kane.

Fe enillodd Norwy 2-1 yn erbyn Brasil diolch i ddwy gôl gan Erling Haaland, sydd wedi sgorio saith o goliau yn y gystadleuaeth hyd yma.

Credai Eirig Jones mai Haaland fydd y chwaraewr allweddol i Norwy nos Sadwrn, ac yn gallu sicrhau buddugoliaeth i'r wlad.

"Ma’r hwylia’ yn Oslo yn dda iawn ‘dan ni’n edrych ymlaen llawer iawn i gyfarfod Lloegr," meddai.

"A wrth gwrs ‘dan ni’n meddwl bod ni mynd i guro nhw, achos ‘dan ni hefo’r chwaraewr gorau’n y byd, sef Erling Braut Haaland."

Image
Cafodd Erling ei eni yn 2000 yn ninas Leeds yn Swydd Efrog, gan yr oedd ei dad, Alf-Inge Haaland, yn chwarae dros Leeds United o 1997 i 2000. Llun: Reuters
Cafodd Erling ei eni yn 2000 yn ninas Leeds yn Swydd Efrog, gan yr oedd ei dad, Alf-Inge Haaland, yn chwarae dros Leeds United o 1997 i 2000. (Llun: Reuters)

Miami fydd llwyfan y gêm nos Sadwrn, gyda'r enillwyr i herio naill ai'r Ariannin neu'r Swistir yn y rownd gynderfynol nos Fercher 15 Gorffennaf.

Enillodd Lloegr Cwpan y Byd yn 1966, eu hunig fuddugoliaeth mewn prif gystadleuaeth hyd yma.

Dyma'r pellaf mae Norwy wedi cyrraedd yng Nghwpan y Byd, gyda'r gobaith o barhau gyda'i rhediad hanesyddol.

Mae'r Norwyaid wedi dal sylw'r byd gyda'u dathliadau ar ddiwedd gemau.

Mae'r garfan yn eistedd ar y cae, gydag un chwaraewr fel Haaland neu'r capten, Martin Odegaard yn taro drwm.

Ar ôl dau guriad mae'r chwaraewyr a chefnogwyr yn rhwyfo fel un ac yn canu ar yr un pryd.

Pe bai nhw'n ennill nos Sadwrn, fe fydd torf yn ymgasglu tu allan i gartref y Brenin ac yn rhwyfo a chanu, ac mae Eirig yn hyderus y bydd hynny'n digwydd.

"Ar ôl i ni guro Lloegr, ‘dan ni gyd yn mynd tu allan i’r gastell hon i ddeffro’r brenin am un o’r gloch y bore drwy rwyfo, a ia, dathlu.

"A dwi’n gobeithio bod pawb yng Nghymru hefyd yn mynd i gefnogi Norwy achos wrth gwrs, ma’ pob Cymro da yn cefnogi pwy bynnag tîm sy’n chwarae yn erbyn Lloegr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.