Huw Edwards yn dweud ei fod wedi ‘colli’r plot’ mewn rhaglen ddogfen newydd
Mae Huw Edwards wedi dweud ei fod wedi “colli’r plot” am gyfnod yn ei fywyd, wrth ateb cwestiynau am ei droseddau mewn rhaglen ddogfen newydd ar Channel 4.
Mae 'Huw Edwards - Guilty' yn dilyn y cyn-gyflwynydd newyddion yn ei fywyd bob dydd ar ôl iddo gael ei ddyfarnu’n euog o wneud delweddau anweddus o blant.
Cafodd y rhaglen ei ffilmio dros gyfnod o bron i flwyddyn, ac mae’n dilyn Mr Edwards yn ei gartref yng nghefn gwlad Cymru ar ôl i’w yrfa newyddiadurol ddisglair yn Llundain ddod i ben.
Mewn fideo sy’n rhoi blas o'r rhaglen fydd yn cael ei darlledu ar 1 Rhagfyr, mae Edwards yn ateb cwestiwn am yr hyn yr oedd wedi ei wneud, gan ddweud: "You want me to analyse what I was doing?"
"I do" meddai'r holwr.
"I mean, seriously?" meddai Huw Edwards wrtho wedyn, cyn ychwanegu: "I'd lost the plot."
Yn ôl disgrifiad Channel 4 o'r rhaglen, mae’r cyn-ddarllenydd newyddion “yn gorfod wynebu’r ffaith ei fod wedi colli ei enwogrwydd, bod ei iechyd yn dirywio a bod ei berthynas â phobl eraill wedi chwalu, yn ogystal â wynebu ei droseddau.”
Dywedodd Sacha Mirzoeff, uwch olygydd comisiynu Channel 4: “Mae gan Channel 4 enw da ers tro am fynd i’r afael â phynciau dadleuol drwy wneud ffilmiau o’r safon uchaf.
“Mae Huw Edwards - Guilty yn dilyn y traddodiad hwnnw wrth geisio cael atebion gan ddyn sy’n ceisio dod i delerau â’r ffordd y gwnaeth gamddefnyddio ei rym.”
Dywedodd y cyfarwyddwr Patrick Forbes: “Roedd hi’n bwysig gwneud y ffilm hon. Anaml y byddwch chi’n dod o hyd i bwnc sy’n cyffwrdd â chymaint o faterion pwysig ein hoes, o’r diwylliant o amgylch enwogion i rym y cyfryngau, ac sydd hefyd yn codi cwestiynau oesol am drosedd a chosb.”
Roedd Edwards yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno News at Ten y BBC am ddegawdau, a thorri newyddion mawr gan gynnwys marwolaeth y Frenhines Elizabeth II.
Ym mis Gorffennaf 2023, fe gyhoeddodd The Sun honiad bod un o “brif sêr y BBC” wedi talu rhywun yn ei arddegau am luniau rhywiol.
Rai dyddiau’n ddiweddarach, fe gadarnhaodd gwraig Edwards mai ei gŵr hi oedd y cyflwynydd dan sylw.
Fe ymddiswyddodd Huw Edwards o'r BBC ym mis Ebrill 2024. Cafodd ei gyhuddo ym mis Mehefin y flwyddyn honno ar ôl ymchwiliad gan Heddlu'r Met.
Fis yn ddiweddarach, fe wnaeth gyfaddef ei fod wedi gwneud delweddau anweddus o blant a bod ganddo 41 o luniau anweddus ar WhatsApp.
Roedd saith ohonyn nhw yn y categori mwyaf difrifol.
Cafodd ddedfryd o chwe mis o garchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd.