'Hunllefau': Cyn-ddisgybl yn honni i Neil Foden feithrin perthynas amhriodol gyda hi
Mae cyn-ddisgybl 17 oed o Ysgol Friars yn dweud ei bod yn cael “hunllefau” ac “ôl-fflachiadau” wrth honni fod cyn-bennaeth yr ysgol, Neil Foden, wedi meithrin perthynas amhriodol gyda hi.
Pan oedd Meg, nid ei henw iawn, yn 14 oed, mae hi'n dweud iddi gael ei grwmio gan Foden, yn ystod cyfres o “sesiynau therapi” un-i-un yn ei swyddfa.
Mae hi’n dweud na wnaeth o ymosod arni’n gorfforol nac yn rhywiol, ond fod ei ymddygiad tuag ati yn dal i’w heffeithio.
"Dwi'n cael nightmares bob hyn a hyn," meddai wrth raglen Newyddion S4C. "Dwi efo flashbacks o fo.
"Dwi'n gwybod fydd hwn hefo fi am bywyd fi.
“Mae'r grooming ddim jyst twtiad, mae'n controlio meddwl chdi. Oedd o'n controlio meddwl fi. Oedd o'n chwarae'r gema’."
Mae’n dweud ei bod rwan yn gorfod “brwydro i brofi” pa effaith gafodd ymddygiad Foden ar ei bywyd, gan fod cwmni yswiriant sy’n gweithredu ar ran Cyngor Gwynedd wedi gofyn iddi dynnu ei chais am iawndal yn ôl.
Fe gafodd y cais ei wneud er mwyn ei helpu i dalu am gostau therapi.
Mae Newyddion S4C wedi gweld llythyr a gafodd ei anfon at Meg gan gyfreithwyr y cwmni yswiriant. Ymysg rhesymau eraill, maen nhw’n deud nad oes yna awgrym bod Foden “wedi cyffwrdd â hi” ac nad ydi honiadau Meg yn “cyrraedd y trothwy cyfreithiol”.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd yn 2024 am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn merched ifanc.
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod yr holl achosion iawndal sy’n ymwneud â’r materion am Foden yn dal i gael eu hystyried drwy brosesau cyfreithiol.
Credir mai Meg ydi’r “ferch newydd” y cyfeirir ati yn adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol gafodd ei gyhoeddi fis Tachwedd diwethaf a oedd yn edrych ar fethiannau diogelu mewn cysylltiad a troseddau Foden.
Yn 2023, roedd Meg yn cael trafferthion gyda’i gwaith ysgol. Ar ôl trafod yr anawsterau gyda’i rhieni, cynigiodd Foden roi cefnogaeth un-i-un iddi.
Pan glywodd am y trefniant, cafodd Meg ei synnu.
“Oedd o wedi basically dweud oedd o isio one-to-one sessions efo fi," meddai.
"Ac roeddwn i mewn position ond roeddwn i'n teimlo o’n i ddim yn gallu dweud na.”
Mae Meg yn dweud bod Foden wedi dweud wrthi am beidio â dweud wrth ei rhieni am y cyfarfodydd, tra hefyd yn gofyn i’w rhieni beidio â thrafod y trefniant gyda hi. Mae’n credu bod hyn wedi eu hatal fel teulu rhag trafod yn agored beth oedd yn digwydd.
Cafodd 17 sesiwn “cefnogi” ar ei phen ei hun gyda Foden.
“O’n i'n gweld o mwy a mwy," meddai.
"Cause o’n i'n rhoi trust i mewn iddo fo a dwi’n meddwl o’n i ’di dechrau agor fyny iddo fo a dweud pethau ella faswn i ddim yn deud i pawb arall, cos o'n i yna i trustio fo, dyna be o'n i'n teimlo anyway.
“A wedyn ar ôl bach o amser, dwi'n meddwl oedd o wedi recogniso oedd o hefo trust i gyd fi i fewn.
“Dwi'n cofio fo'n gofyn i fi os o'n i'n scared o fo, ac o'n i ’di atab yn deud ‘ia’, o’n i. A dwi'n meddwl mae hwnna ’di confirmio efo fo - oedd o hefo'r authority a'r pŵer ato fi.
"O'n i'n teimlo'n sbesial edrych yn ôl.
“A dwi'n meddwl, o'n i'n licio hwnna, cause o'n i'n 14, o'n i isio rhywun yna bob tro, a dwi'n meddwl mae o wedi sbio ar hynna a ’di cymryd mantais o hwnna.”
Pryderon heb eu hadrodd
Tua’r un cyfnod ag yr oedd Meg yn cael help honedig gan Foden, yn ôl yr Adolygiad Ymarfer Plant roedd uwch dîm rheoli Ysgol Friars hefyd yn poeni am ei ymddygiad o efo rhai merched ifanc.
Nododd yr adroddiad fod yna dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli i atal Foden.
Er bod llawer o’r methiannau a nodwyd gan yr adolygwyr yn ymwneud â Chyngor Gwynedd ac asiantaethau eraill, roedd pryderon hefyd am weithredoedd tîm rheoli Ysgol Friars.
Rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2023, mi fu’r uwch dîm, gan gynnwys yr arweinydd diogelu dynodedig, yn trafod ymddygiad Foden drwy negeseuon.
Mae un neges yn dweud fod Foden "yn treulio hanner ei amser yn yr ysgol bellach yn gafael llaw genethod bach" cyn disgrifio ei arferiad o fynd â disgyblion adref yn “rhyfedd ar y gorau" ac "amheus”.
Wrth gyferio at swyddfa Foden mae un neges yn deud fod ’na " un arall mewn yna rŵan". A chyfeiriad at "eneth Newydd” mewn neges nes ymlaen.
Mae Meg yn credu fod y ddau sylw yma yn cyfeirio ati hi.
Er nad ydi’r BBC wedi gallu cadarnhau hyn gyda thîm yr adolygiad, mae teulu Meg wedi darparu negeseuon testun o’r un cyfnod lle mae Foden yn trafod “sesiynau therapi” un-i-un gyda Meg, gan ei lleoli yn ei swyddfa ar yr adeg roedd uwch staff yn codi pryderon.
Er gwaethaf pryderon athrawon ar y pryd, ni wnaed cyfeiriad at Wasanaethau Plant Gwynedd.
Mi ddaeth yr adolygiad i’r casgliad fod hyn yn “fethiant o ran dyletswydd broffesiynol i roi gwybod am bryderon diogelu".
Mae Cyngor Gwynedd yn pwysleisio fod systemau diogelu’r sir wedi cryfhau erbyn hyn.
Mae Meg yn dweud fod staff Ysgol Friars wedi ei gweld yn ymweld â Foden yn rheolaidd.
“I mynd i office fo oedd chdi angen mynd trwy office arall efo pobl yna, ac oedd yna meeting room oedd 'na bob tro pobl yna”," meddai.
“So oedd pobl wedi gweld fi mynd yna. Athrawon a senior management.”
Yn dilyn yr Adolygiad Ymarfer Plant mabwysiadodd Cyngor Gwynedd gynllun ymateb diwygiedig, gan addo cryfhau gweithdrefnau diogelu a chefnogi’r rhai gafodd eu heffeithio gan droseddau Foden.
'Dwi wedi beio fy hun'
Mae Meg yn dweud iddi gael sioc pan gafodd Foden ei arestio. Ond ar ôl clywed tystiolaeth y merched eraill yn y llys, mi ddaeth i feddwl y gallai hi fod wedi bod nesaf.
Mae’n dweud iddi gymryd misoedd i “roi popeth at ei gilydd” a sylweddoli ei bod wedi cael ei grwmio gan Foden.
"Oedd o wedi cymryd misoedd iddo fi rhoi pob dim efo'i gilydd a realisio be exactly oedd ’di mynd ar," meddai.
Gofynodd Newyddion S4C iddi beth oedd yn mynd ymlaen, yn ei geiriau hi?
"O'n i'n groomed," atebodd.
"Oeddach chi'n cael eich grwmio gan Neil Foden?" gofynodd gohebydd Newyddion S4C.
"O'n, heb bo fi'n realise fo, ond o'n i," atebodd.
Wrth edrych yn ôl, mae’n dweud ei bod yn teimlo cywilydd.
"Dwi'n meddwl dwi di rhoi bai ar fi fy hun amser ar ôl amser," meddai.
“Pam oni heb di sbotio be oedd yn mynd ymlaen?"
Ar ôl i Foden gael ei garcharu, a chyda cymorth cyfreithiol, mae Meg wedi rhoi gwybod i Gyngor Gwynedd ei bod hi’n bwriadu gwneud cais am iawndal, i’w helpu i dalu am therapi a chefnogaeth iechyd meddwl.
Mae llythyr gan gyfreithwyr sy’n gweithredu ar ran cwmni yswiriant Cyngor Gwynedd yn dadlau nad oes “atebolrwydd cyfreithiol” ar y cyngor.
Mae’n datgan nad oes unrhyw awgrym fod Foden “wedi cyffwrdd â hi” ac yn dweud nad yw ei honiadau yn cyrraedd y trothwy cyfreithiol ar gyfer ceisiadau a all gynnwys ymosodiad, aflonyddu neu “achosi niwed yn fwriadol”.
“Odd o’n heartbreaking,” meddai.
"So mae'n cymryd rhywun i actually twchad fi i fi gael ei effeithio?” meddai, gan ddweud ei bod yn byw â "depression, PTSD ac anxiety, so mae hwnna masif ar iechyd meddwl fi".
Ers gwneud y cais, meddai, “dwi 'di gorfod deud stori fi dro ar ôl tro, ail-fyw atgofion, mynd i psychiatric assements er mwyn profi yr effaith ma o wedi ga'l".
Bron i dair blynedd ar ôl y sesiynau efo Foden mae hi’n dal i fyw efo’r "trawma" meddai ac yn dibynnu ar feddyginiaeth i'w helpu i ymdopi.
Ymateb
Mewn datganiad mae Cyngor Gwynedd yn dweud nad ydyn nhw’n gallu rhoi sylw i achosion unigol ac mai cwmni allanol sydd yn gyfrifol am ddelio efo’r ceisiadau am iawndal.
“Mae Cyngor Gwynedd yn cydnabod y methiannau a amlygwyd yn adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder 2024," medden nhw.
"Rydym yn cydnabod hefyd yr effaith ddifrifol a gafodd hyn ar ddisgyblion, staff a’r gymuned ehangach, ac yn ymddiheuro’n ddiffuant i’r holl ddioddefwyr.
“Mae’r holl ddioddefwyr a’r goroeswyr yn parhau ar flaen ein meddyliau, ac mae ystod o gymorth ar gael iddynt, gan gynnwys gwasanaeth cwnsela annibynnol.
"Mewn achosion priodol, rydym yn ceisio cytuno ar geisiadau am iawndal mor gyflym â phosibl er mwyn osgoi’r angen i ddioddefwyr fynd drwy brosesau cyfreithiol diangen."
Dywedodd Meg ei bod hi'n "teimlo bod Cyngor Gwynedd wedi troi cefn ar fi”.
“Maen nhw ’di deud ond mewn ffordd maen nhw heb ’di gwneud o gwbl… effeithio fi.”
Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod yn cydnabod y methiannau a nodwyd yn yr Adolygiad Ymarfer Plant a'u bod yn ailadroddodd ei ymddiheuriad i bob dioddefwr.
'Dibynnol'
Mae Meg yn credu ei bod hi wedi cael ei grwmio gan Foden, ac mae’r achos yn codi cwestiwn ehangach am ba effaith mae grwmio yn ei gael ar bobol ifanc.
I ddarganfod mwy, bu Newyddion S4C yn siarad â Dr Nia Williams, seicolegydd plant ym Mhrifysgol Bangor, sy’n astudio ac yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n byw gydag amrywiaeth o gyflyrau iechyd meddwl.
Yn ôl Dr Williams, mae’r rhai sy’n grwmio yn aml yn canolbwyntio ar bobl sydd ynysig neu sydd heb rwydweithiau cymorth cryf o’u hamgylch.
“Maen nhw’n targedu unigolion sy’n llai tebygol o godi llais, llai tebygol o ofyn cwestiynau, ac nad oes ganddynt gymorth cryf gan eu teulu neu eu cymuned,” meddai.
Esboniodd fod meithrin perthynas amhriodol fel arfer yn cynnwys proses raddol sydd wedi’i chynllunio i ennill ymddiriedaeth dioddefwr.
“Maen nhw’n gwneud i’r unigolyn deimlo’n bwysig," meddai.
"Maen nhw’n dweud wrthyn nhw, ‘Fi ydi'r unig un sy’n poeni amdanat ti’ neu ‘Fi ydi’r unig un sy’n gwrando arnat ti’.
“Dros amser, gall y dioddefwr ddod yn ddibynnol iawn ar yr unigolyn hwnnw.”
Rhybuddiodd Dr Williams y gall yr effeithiau barhau ymhell ar ôl i’r grwmio ddod i ben, yn enwedig os nad ydi'r dioddefwyr yn cael y gefnogaeth briodol.
“Gall gael effaith hirdymor ar ddioddefwyr a goroeswyr,” meddai.
“Mae rhai pobl yn mynd yn ynysig, mae rhai’n ei chael yn anodd ymddiried mewn eraill, ac mae rhai’n cael trafferth ffurfio perthynas. I rai unigolion, gall y canlyniadau bara am oes.”
Mae hi’n dweud bod deall sut mae meithrin perthynas amhriodol yn gweithio yn hanfodol os ydi mwy o ddioddefwyr i gael eu hadnabod a’u cefnogi.
“Mae’r groomio yn digwydd yn raddol. Mae’r ysglyfaethwr yn ennill ymddiriedaeth gam wrth gam nes bod y dioddefwr yn teimlo’n gwbl ddibynnol arnynt. Dyna sy’n gwneud meithrin perthynas amhriodol mor anodd ei adnabod ac mor niweidiol i’r rhai sy’n ei brofi.”
'Byw bywyd'
Mae Meg yn gobeithio y bydd ei stori yn helpu eraill i adnabod arwyddion grwmio.
“Mae angen dysgu pobl be ydi grwmio," meddai.
"Especially mewn ysgol lle mae pobl ddim yn gwbod be 'di’r signs.”
Yn ôl Cyngor Gwynedd mae pob cais am iawndal mewn cyswllt â Foden yn dal i gael eu hystyried.
Mae Meg am ddal ati efo’i chais hi er bod cyfreithwyr yswiriant yr awdurdod wedi awgrymu na ddyla hi.
“Pryd o'n i'n 14 o'n i heb wneud dim byd i deserfio hyn," meddai.
"Dwi'n mynd i ffeitio am y bywyd innocent hwnna eto. I prwfio iddo fo a pawb arall neith hwn ddim yn stopio fi, dydi hwn ddim yn difineio fi.
“A fydda i’n gallu byw bywyd fi sut ’dwi ishio eto.”