Heddlu yng ngogledd Lloegr yn destun ymchwiliad wedi i ‘nifer o bobl’ farw mewn gwrthdrawiad
Mae’r Swyddfa Annibynnol dros Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i amgylchiadau gwrthdrawiad yng ngogledd Lloegr a oedd yn cynnwys car heddlu, lle bu farw “nifer o bobl”.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A66 ger South Bank yng ngogledd Swydd Efrog am 03:39 ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Cleveland mewn datganiad bod car heddlu a Volkswagen Passat wedi gwrthdaro.
“Yn anffodus, mae nifer o bobl wedi marw o ganlyniad i’r gwrthdrawiad,” meddai'r llu.
Dywedodd yr IOPC eu bod yn ymchwilio i amgylchiadau’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd “yn dilyn digwyddiad yn cynnwys swyddogion Heddlu Cleveland”.
“Yn ystod y cam cynnar hwn, rydym yn deall bod Heddlu Cleveland wedi gweld cerbyd amheus a’u bod wedi dechrau mynd ar ei ôl,” meddai’r IOPC.
'Cydymdeimlo'
Dywedodd Heddlu Cleveland fod “nifer sylweddol o gerbydau’r gwasanaethau brys” yn y lleoliad ac y byddai’r ffordd ar gau am gryn amser.
“Rydym yn gofyn i’r cyhoedd ddefnyddio llwybrau eraill,” meddai'r llu.
“Rydyn ni’n gweithio i adnabod y dioddefwyr a chysylltu â’u teuluoedd.
“Mae’r sefyllfa’n datblygu’n gyflym ac rydyn ni’n gofyn yn barchus i aelodau’r cyhoedd beidio â dyfalu.”
Mae'r ffordd ar gau yn y ddau gyfeiriad wrth i'r ymchwiliad barhau.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd-ddwyrain Lloegr: “Cawsom ein galw am 03:39 ar 22 Awst i ddigwyddiad traffig difrifol a oedd yn ymwneud â thri cherbyd ar yr A66 yn South Bank.
“Fe wnaethom anfon 14 o adnoddau ambiwlans i’r lleoliad. Roedd y rhain yn cynnwys criwiau ambiwlans brys, parafeddyg arbenigol, ein tîm ymateb i ardaloedd peryglus a meddyg o Wasanaeth Ambiwlans Awyr Great North.
“Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion gorau pawb yn y lleoliad, bu farw nifer o gleifion yno.
“Rydyn ni’n cydymdeimlo â phawb sydd wedi eu heffeithio gan ddigwyddiad mor drasig. Rydyn ni hefyd yn diolch i bawb am bopeth a wnaethant i helpu.”
Llun: Yr A66 ger South Bank
