Heddlu Dyfed-Powys yn dioddef ymosodiad seiber
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud y gallai gwybodaeth am aelodau staff fod wedi cael ei pheryglu ar ôl i’r llu ddioddef ymosodiad seiber.
Dywedodd y llu fod y digwyddiad wedi amharu ar rai systemau nad ydynt yn rhai brys, ond nad oedd yn credu bod unrhyw ddata personol sy’n ymwneud ag aelodau o’r cyhoedd wedi cael ei gyrchu na’i beryglu.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn cael cymorth gan arbenigwyr seiberddiogelwch a bod “mesurau rhagofalus” wedi cael eu rhoi ar waith ar ei systemau tra bod ymchwiliad yn mynd rhagddo.
Dywedodd llefarydd: “Ar hyn o bryd, nid yw ein hymchwiliad wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod data personol aelodau o’r cyhoedd wedi cael ei effeithio na’i beryglu o ganlyniad i’r digwyddiad hwn.
“Fodd bynnag, rydym yn parhau i ymchwilio i weld a oes unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’n staff wedi cael ei heffeithio neu ei pheryglu. Rydym yn cymryd pob cam priodol i ddiogelu’r wybodaeth honno. Byddwn yn rhoi cyngor priodol i gydweithwyr os bydd angen.”
Nid oedd modd cysylltu â’r heddlu ar-lein na thrwy e-bost yn dilyn yr ymosodiad, a gafodd ei ganfod ar 14 Medi, ond mae’r gwasanaethau hynny bellach wedi cael eu hadfer.
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cael gwybod am y digwyddiad.
Ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu: “Rydym yn deall y pryder posibl y gallai hyn ei achosi ac rydym am sicrhau’r cyhoedd ein bod wedi cymryd, ac y byddwn yn parhau i gymryd, bob cam angenrheidiol i ddiogelu ein gwybodaeth a chynnal diogelwch ein systemau.
“Byddwn yn darparu diweddariadau pellach pan fyddwn mewn sefyllfa i wneud hynny.”
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gwasanaethu ardal sy’n cynnwys Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys, sydd â phoblogaeth o fwy na 500,000.