Hawl i brynu alcohol gan ddefnyddio prawf oed digidol

Llun: Yoti
Prawf Digidol am alcohol

Bydd tafarndai a siopau yng Nghymru yn gallu derbyn prawf oedran trwy gyfrwng digidol wrth werthu alcohol o dan reolau newydd sy’n dod i rym ddydd Mawrth.

Bydd y newid yn rhoi’r dewis i gwsmeriaid ddefnyddio eu ffonau i brofi eu hoedran, yn hytrach na chario dogfen fel pasbort neu drwydded yrru.

Mae’r newidiadau i’r Ddeddf Trwyddedu yn berthnasol i fusnesau yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys tafarndai, bwytai a lleoliadau sy’n gwerthu alcohol mewn gwyliau a chyngherddau.

Ond mae Llywodraeth y DU yn disgwyl y bydd yn cymryd amser cyn i’r dechnoleg gael ei defnyddio’n eang.

Bydd y prawf oedran ar gael drwy apiau gan gwmnïau allanol, fel Yoti, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn rhai sefyllfaoedd, gan gynnwys i brynu tocynnau sinema sydd â chyfyngiad oedran.

Dewis unigolion a busnesau fydd defnyddio’r dechnoleg.

Sut fydd hyn yn gweithio?

Bydd angen i gwsmeriaid gadarnhau mai nhw sy’n berchen ar y prawf adnabod bob tro maen nhw’n ei ddefnyddio, er enghraifft drwy sganio eu hwyneb neu roi cod yn yr ap.

Bydd hynny wedyn yn creu tocyn digidol, fel cod QR, fydd yn ddilys am tua 30 eiliad. Bwriad hynny yw atal rhywun rhag defnyddio prawf adnabod person arall.

Mewn rhai achosion, bydd y cwsmer yn rhoi rhif PIN cyn i lun gael ei anfon i ddyfais y busnes, er mwyn i aelod o staff ei gymharu â’r person o’i flaen.

Mae disgwyl y bydd modd defnyddio’r dechnoleg heb gysylltiad â’r rhyngrwyd, yn yr un modd â thaliadau digyswllt.

Mae’r llywodraeth wedi gofyn i ddatblygwyr sicrhau bod eu systemau’n gweithio gyda’i gilydd, fel na fydd angen i gwsmeriaid lawrlwytho ap gwahanol ar gyfer pob busnes.

Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Ddigidol, Stephanie Peacock: “Bydd y newid arloesol hwn yn y gyfraith yn golygu nad oes angen i chi gario dogfen adnabod ffisegol, na rhoi gwybodaeth bersonol sensitif fel eich enw neu’ch cyfeiriad dim ond i brofi eich oedran.”

Defnyddio pasbort neu drwydded yrru

Bydd dogfennau adnabod fel trwydded yrru neu basport yn parhau’n ffordd ddilys o brofi oedran.

Er na fydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau barhau i’w derbyn wrth werthu alcohol, nid yw Llywodraeth y DU yn disgwyl iddyn nhw roi’r gorau i wneud hynny, gan y byddai hynny’n golygu na fyddai rhai cwsmeriaid yn gallu defnyddio’r gwasanaeth.

Nid yw’r gost i fusnesau yn glir eto, ond y gobaith yw y bydd modd defnyddio’r dechnoleg ar dabledi sydd ganddyn nhw eisoes.

Croesawodd Allen Simpson, prif weithredwr UKHospitality, y newid, gan ddweud y byddai’n rhoi mwy o hyblygrwydd i gwsmeriaid a busnesau.

Ychwanegodd fod y corff yn awyddus i weithio gyda’r llywodraeth i sicrhau bod y cynllun yn gosteffeithiol ac nad yw’n faich ar y sector lletygarwch.

Mae Llywodraeth y DU hefyd am ehangu’r defnydd o brawf oedran digidol i werthu cynhyrchion eraill, gyda thybaco a fêps nesaf ar eu hagenda.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.