Gwynedd: Gwrthod cynlluniau i adeiladu 'plasty' mewn pentref ger Pwllheli
Mae cais i godi tŷ oedd yn cael ei ddisgrifio fel "plasty ar lan y Llynnoedd Mawr yn yr Unol Daleithiau" mewn pentref bach gwledig ger Pwllheli wedi cael ei wrthod.
Fe bleidleisiodd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn erbyn cais cynllunio llawn i godi'r tŷ, ynghyd â mynedfa a lle parcio, ar dir ger Lleifior, Llangybi, mewn cyfarfod yr wythnos hon.
Cafodd y cais ei gyflwyno gan Les Forbes drwy ei asiant, Neil Foxall o NJPlanning Ltd.
Roedd y cynlluniau’n dangos tŷ ar wahân ar ddarn o dir rhwng eiddo Lleifior ac ystâd Troed y Garn.
Byddai’r tŷ wedi bod tua 8.8metr o uchder hyd at grib y to, tua 19.3 metr o hyd ar hyd ei brif wyneb a thua 14.5 metr o led.
“Mae dyluniad yr adeilad yn cynnwys elfennau mwy cyfoes, fel balconi ar flaen yr eiddo,” yn ôl y cynlluniau.
Roedd cynnig i ddefnyddio llechi naturiol ar y to, ynghyd â phaneli solar, a byddai’r waliau allanol wedi’u gorchuddio â chymysgedd o gladin carreg naturiol a chladin pren wedi’i losgi.
Yn ôl y cynlluniau, byddai hyn yn “rhoi cymeriad unigryw i’r adeilad ac yn cyfuno deunyddiau sy’n adlewyrchu elfennau traddodiadol a chyfoes”.
Roedd y safle o fewn ffin datblygu Llangybi a rhwng ffordd dosbarth tri a llwybr troed cyhoeddus rhif 14 Llanystumdwy i'r dwyrain ac yn ffinio â man chwarae agored sy'n cael ei ddiogelu.
Yn flaenorol, roedd nodyn yn awgrymu bod cynlluniau i adeiladu tŷ llai ar yr un safle wedi cael ei gymeradwyo gydag amodau.
'Llawer rhy fawr i'r pentref'
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Tudur gan wrthwynebu'r cynlluniau:
“Pan welais y cynlluniau hyn am y tro cyntaf, cefais yr argraff mai plasty ger y Llynnoedd Mawr (the Great Lakes) oedd hwn.
“Ond nid ger y Llynnoedd Mawr y mae. Mae ym mhentref gwledig Llangybi, drws nesaf i stad o dai cymdeithasol ac yn agos at lwybr troed cyhoeddus.
“Mae llawer o wydr ar flaen a chefn y tŷ, mae lle parcio helaeth ac mae garej yn rhan o’r tŷ.
“Mae’r balconi’n wynebu’r ffordd ac yn edrych dros gae chwarae’r pentref. Mae’r tŷ’n edrych bron ddwywaith maint y tŷ drws nesaf. Mae’n dŷ sy’n llawer rhy fawr i’r pentref.
“Mae’n anaddas i’r lleoliad, sy'n bentref bach gwledig."
Fe ofynnodd Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd, am eglurhad ynghylch y rhesymau dros wrthod y cais. “O ran y ffin ddatblygu, rwy’n derbyn bod yr ardd y tu allan i’r ffin, ond mae’r tŷ o’i mewn.
“Dydy hi ddim yn anarferol i ddatblygiadau tai gael eu cymeradwyo gyda rhan o ardd y tu allan i’r ffin,” meddai.
“Y patio, y slabiau a phethau felly sydd dan sylw,” meddai’r Cynghorydd Parry Jones. “Rwy’n meddwl bod lle i ddadlau y dylai’r patio fod o fewn y ffin.
“Dw i ddim yn erbyn tai modern na dim byd felly. Y peth yw nad yw’r tŷ yma’n gweddu i’r lleoliad. Dw i’n sylweddoli bod modd codi tŷ yno, ond nid y tŷ yma nac un o’r maint yma.”
'Cefnogi’r argymhelliad'
Roedd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn yn anghytuno â’r cynnig i wrthod y cais.
“Rwy’n meddwl y dylen ni gasglu dyluniadau modern at ei gilydd. Ddylen ni ddim cyfyngu ein syniadau am gynllunio i un cyfnod yn y gorffennol,” meddai.
“Yn fy marn i, mae’r adroddiad yn glir. Dw i o blaid y datblygiad yma. Rwy’n meddwl y dylen ni ei gymeradwyo.”
Roedd y Cynghorydd Louise Hughes yn cytuno. “Dw i’n hoff iawn o’r dyluniad. Dydy o ddim yn blasty crand o bell ffordd. Dim ond cartref teuluol o faint da iawn ydy o. Pam lai?
“Fydden ni’n gwrthod y cais petai 20 o dai cymdeithasol yn cael eu codi? Dw i’n ei hoffi. Mi fyddwn i’n ei gymeradwyo.”
“Mae’r adroddiad yn eithaf clir. Yr argymhelliad yw cymeradwyo’r cais,” ychwanegodd y Cynghorydd Anne Lloyd Jones.
“Dw i’n poeni beth fyddai’n digwydd petai’r cais yn mynd i apêl, o ystyried beth sydd wedi digwydd mewn rhannau eraill o Ddwyfor. Mi fydda i’n cefnogi’r argymhelliad yn yr adroddiad.”
Fe bleidleisiodd wyth o blaid gwrthod y cais a saith yn erbyn. Wnaeth neb ymatal.