Gwynedd: Gwahardd aelod o staff mewn ysgol wrth i’r heddlu ymchwilio i grŵmio
Gwynedd: Gwahardd aelod o staff mewn ysgol wrth i’r heddlu ymchwilio i grŵmio
Mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi gwahardd aelod o staff ysgol wrth i’r heddlu ymchwilio i achos o grŵmio.
Dywedodd Cyngor Gwynedd: “Gallwn gadarnhau bod aelod o staff mewn ysgol yng Ngwynedd wedi cael ei wahardd o’i swydd.
“Ni fyddai’n briodol i’r Cyngor na’r ysgol dan sylw wneud sylwadau pellach nes bod yr holl ymchwiliadau perthnasol wedi’u cwblhau.
"Gallwn gadarnhau bod yr holl weithdrefnau amddiffyn plant perthnasol yn cael eu dilyn.”
Ddydd Mercher dywedodd Heddlu’r Gogledd fod dyn o ardal Porthmadog, Gwynedd wedi ei arestio ar amheuaeth o gwrdd â phlentyn ar ôl meithrin perthynas rywiol ond pwysleisiodd y cyngor na allan nhw gadarnhau na gwadu'r wybodaeth honno.
Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru bod y dyn 29 oed wedi'i arestio ddechrau Gorffennaf.
Mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
Nododd yr heddlu nad oes modd iddyn nhw wneud sylw pellach am fod yr ymchwiliad yn parhau.
Maen nhw'n annog y cyhoedd i beidio â dyfalu am y digwyddiad na lledaenu ffeithiau anghywir ar-lein.
Maen nhw'n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r llu gan ddyfynnu 26000520276.
