Mae cynlluniau i adeiladu 25 o dai fforddiadwy mewn pentref yng Ngwynedd wedi’u gwrthod gan gynghorwyr.
Pleidleisiodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd o blaid gwrthod y cais ddydd Llun, gyda 8 o blaid ei wrthod a 4 yn erbyn.
Cyn hynny, methodd cynnig i gymeradwyo’r cynllun, gyda dim ond 3 o blaid a 10 yn erbyn.
Bydd y penderfyniad bellach yn cael ei gyfeirio at gyfnod “cnoi cil” cyn ei gadarnhau’n derfynol.
Roedd y cais ar gyfer safle ger Brynhyfryd a Chae Capel yn Chwilog, ac wedi’i gyflwyno gan Williams Homes (Bala) Ltd ar y cyd â Grŵp Cynefin.
Roedd yn cynnwys cymysgedd o fflatiau, tai a byngalos, ynghyd â mynediad newydd i gerbydau o’r B4354 a gwaith cysylltiedig.
Er bod swyddogion wedi argymell cymeradwyo’r cais, penderfynodd aelodau fynd yn groes i’r cyngor hwnnw yn dilyn gwrthwynebiad lleol cryf.
Pryderon ieithyddol
Roedd deiseb yn erbyn y datblygiad wedi casglu tua 160 o lofnodion, ac roedd Cyngor Cymuned Llanystumdwy wedi gwrthwynebu’r cynllun yn unfrydol.
Dywedodd y cyngor cymuned fod Chwilog yn ardal o “bwysigrwydd ieithyddol”, ac ymhlith yr ardaloedd â’r ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Ngwynedd.
Roedden nhw’n dadlau y byddai’n “anodd integreiddio 25 o dai i’r pentref heb greu problem ieithyddol”, gan alw am sicrhau bod gan denantiaid gysylltiad lleol cryf.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: “Mae Chwilog yn bentref Cymreig, mae angen parchu hyn, fel bod hyn yn cael ei ystyried wrth osod y tai.”
Yn ogystal â’r Gymraeg, cafodd nifer o bryderon eraill eu codi gan drigolion lleol, gan gynnwys diogelwch ffyrdd a cherddwyr, capasiti’r ysgol leol, a materion carthffosiaeth a draenio.
Dywedodd rhai hefyd fod maint y datblygiad yn rhy fawr o gymharu â’r pentref, ac y gallai bron ddyblu nifer y tai cymdeithasol mewn cyfnod byr.
Yn ôl dogfennau cynllunio, roedd y datblygiad wedi’i fwriadu i ddiwallu anghenion y farchnad dai leol, ac roedd y safle wedi’i ddynodi’n rhannol ar gyfer tai.
Dywedodd swyddogion fod “ystyriaeth lawn wedi’i rhoi i’r holl sylwadau”, ond nid oedd hynny’n ddigon i berswadio’r pwyllgor.