Gwrthdrawiad A66: Y trais yn Middlesbrough fel 'terfysgaeth' medd aelod seneddol lleol
Fe gafodd ceir eu rhoi ar dân mewn gwylnos nos Iau i un o'r dynion a fu farw yn y gwrthdrawiad ar ffordd yr A66, gydag un Aelod Seneddol lleol yn disgrifio'r trais yn ardal Middlesbrough ers y ddamwain fel "terfysgaeth".
Mae cannoedd i blismyn ychwanegol wedi cael eu symud i'r ardal yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau angheuol a threisgar, gan ddechrau gyda'r gwrthdrawiad a laddodd ddau swyddog yr heddlu a phum dyn ifanc ddydd Sadwrn.
Yn ddiweddarach fe gafodd tŷ ei roi ar dân, gan arwain at at farwolaeth merch saith oed a'i modryb ddydd Mercher.
Mae 'na adroddiadau hefyd am achos o drywanu a cherbydau'n cael eu gyrru'n fwriadol i mewn i dai ers y digwyddiad ar yr A66.
Disgrifiodd Andy McDonald, yr Aelod Seneddol Llafur dros Middlesbrough a Dwyrain Thornaby y sefyllfa fel "terfysgaeth".
Gwnaeth Mr McDonald ei sylwadau wrth i gynghorwyr ddatgelu bod 200 o blismyn ychwanegol yn cynorthwyo staff Heddlu Cleveland, am fod y llu dan bwysau mawr.
Mae fideos sydd wedi ymddangos ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos nifer o geir ar dân mewn gwylnos yn Haswell, Sir Durham, lle cafodd balŵns eu rhyddhau er cof am un o'r dynion a fu farw yn y gwrthdrawiad ar yr A66.
Mae'r swyddogion ychwanegol wedi dod o nifer o luoedd, gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, gan gynorthwyo wrth i'r heddlu barhau i ymchwilio i'r tân yn Grangetown, ger Middlesbrough.
Dywedodd Andy McDonald AS wrth orsaf radio Times Radio: “Mae pobl yn dweud eu bod yn mynd i’r siopau ond ddim yn teimlo’n ddiogel wrth wneud hynny, ac yn teimlo eu bod yn gaeth yn eu cartrefi eu hunain.
“Mae hynny’n gwbl annerbyniol.
“Terfysgaeth yw hyn, ac mae angen ymateb priodol arnom i ddelio â’r bobl sy’n achosi cymaint o anhrefn yn ein cymunedau, ac i alluogi pobl i fyw eu bywydau'n heddychlon.
“Dydy hynny ddim yn digwydd. Mae angen yr adnoddau arnom.”
Nos Iau, roedd fideos ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymddangos fel pe baent yn dangos nifer o geir ar dân mewn cae yn Haswell.
Yn ôl adroddiadau, roedd digwyddiad yn cael ei gynnal yno i gofio Michael Cahill, 23 oed, a fu farw yn y gwrthdrawiad ar yr A66.
Yn ddiweddarach roedd fideos eraill yn dangos tractor yn symud ceir oedd wedi llosgi allan o'r cae, oedd 20 milltir i'r gogledd o safle'r gwrthdrawiad.
Ddydd Gwener, roedd gweddillion tân gwyllt a balŵns wedi'u gwasgaru o amgylch y cae lle'r oedd ceir wedi'u llosgi.
Roedd y ceir wedi'u symud, ond roedd malurion yn parhau o gwmpas y lle.
'Ansicr yn eu cartrefi'
Dywedodd Alec Brown, arweinydd Cyngor Redcar a Cleveland fod dau ddigwyddiad angheuol o fewn ychydig ddyddiau yn “ddigynsail” ac roedd wedi gadael pobl mewn ofn.
Dywedodd: “Rydym wedi cael naw marwolaeth o fewn cyfnod o chwe diwrnod, gan ddechrau gyda’r ddamwain erchyll honno ar yr A66.
“Colli naw bywyd mor agos at ei gilydd... mae hynny wedi arwain at bobl yn teimlo’n ansicr yn eu cartrefi eu hunain.”
Ychwanegodd: “Rwy’n deall bod dyfalu ynghylch a oes rhyfel tiriogaethol rhwng gangiau, a phethau felly, ond fel y gallwch ddychmygu, pe bae chi yn colli naw bywyd yn eich cymuned, ar garreg eich drws, byddech yn teimlo’n ansicr yn eich cartref eich hun.
“Cefais ddiweddariad gan yr uwch-arolygydd (heddlu) ddoe, ac mae hi’n gweithio 20 awr (y dydd) o hyd. Dywedodd fod nifer yr adroddiadau i’r heddlu wedi bod yn anhygoel dros yr wythnos ddiwethaf."
Prif lun: Heddwas ger y tŷ lle bu farw merch saith oed a'i modryb mewn tân yn Grangetown (Llun: PA)